Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Megan Bevan yn cyflwyno siec am £100 i Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru ar ran grwp o Ferched y Wawr Llanddarog. Diolch i aelodau o ganghennau Pontarddulais, Bro Cennech a Gorseinon hefyd am eich cefnogaeth. Ma’r aelodau yn cerdded bob bore Mawrth ac yn cyfrannu £1 yr un bob wythnos. Cawn ddewis achos da [...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Canon Bryan Witt yn cyflwyno siec o £1200 i Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. Casglwyd yr arian yn ystod yr Wyl Goed Nadolig a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Twrog, Llanddarog fis Rhagfyr diwethaf. Hefyd yn y llun gweler Miss Rhian Evans – Is Gadeirydd a Linda Williams (Rheolwr) Diolch yn fawr iawn am eich [...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Diolch i aelodau Soar Maes yr Haf, Castell Nedd am gasglu £720 i Llyfrau Llafar Cymru yn ystod Penwythnos y Gannwyll. Y Gweinidog, y Parchedig Gareth Morgan Jones a dwy o’r aelodau, sy’n derbyn llyfrau sain , Sally a Mair, gyflwynodd y siec mewn oedfa arbennig i gadeirydd Llyfrau Llafar Cymru, Sulwyn Thomas.

[...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Bu aelodau Eglwys yr Annibynwyr, Penygroes, Llanelli, sef Olive Davies, Sheila John a David Thomas yn cyflwyno siec hael o £600 i Llyfrau Llafar Cymru at ein Apel – Penwythnos y Gannwyll.

Yr oedd £200 o’r cyfanswm wedi cael ei godi gan Olive Davies a staff theatr Ysbyty Glangwili.

Diolch o galon am eich cefnogaeth.

[...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

 

Peter Harries o Gapel Salem, Heol Galed, Llandeilo yn cyflwyno siec hael o £600 i Linda Williams a Sulwyn Thomas. Yn y llun hefyd mae Swyddogion y Capel, Alun a Pat Evans a Brenda Rees

Codwyd yr arian wrth gynnal Cyngerdd, Addurno Coeden Nadolig a hefyd gwasanaeth yn y Capel dros 3 diwrnod [...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Sulwyn Thomas, Caerfyrddin, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru yn derbyn cyfraniad i’r elusen gan Wynne Melville Jones, Cadeirydd Banc Bro Llanfihangel Genau’r Glyn. Codwyd £500. i gefnogi Llyfrau Llafar Cymru mewn Noson Nadoligaidd gymunedol lwyddiannus a drefnwyd gan y Banc Bro yn Bethlehem ar nos Wener Rhagfyr 2. Roedd Diana a Huw Ceiriog hefyd yn yn [...]

CAPEL SALEM, LLANDEILO

Dyma lun o’r artistiaid a fu’n diddori yng nghapel Salem , Llandeilo mewn cyngerdd i godi arian i LLyfrau Llafar Cymru. Bob blwyddyn cynhelir Gwyl y Goeden – cyngerdd, arddangosfa o’r coed Nadolig yn y capel a gwasanaeth ar y Sul. Codwyd £600. Diolch i bawb. [...]

PENWYTHNOS Y GANNWYLL – MERCHED Y WAWR – CAERFYRDDIN

Cyflwynwyd siec o £700 i Llyfrau Llafar Cymru yn ddiweddar gan Swyddogion MYW Caerfyrddin.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth i Benwythnos y Gannwyll

CYFRANIAD UNIGRYW

Diolch I Uchel Siryf Dyfed, Is Ganghellor Medwin Hughes am gydnabod gwaith Llyfrau Llafar Cymru mewn seremoni ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Yn y llun gweler Philip James (gweinyddwr) Gareth Gravell (ysgrifennydd) Sulwyn Thomas (Cadeirydd) Linda Williams (Rheolwr) Medwin Hughes (Is Ganghellor)

PENWYTHNOS Y GANNWYLL – CODI ARIAN

Bu Ysgolion Carwe, Gwynfryn a Phonthenri yn codi arian i Llyfrau Llafar Cymru yn ddiweddar. Cyflwynwyd sieciau i Mr Mansel Thomas. Y cyfanswm yn £302.90

Diolch yn fawr iawn i’r plant a’r staff am eu cefnogaeth.

[...]