Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Swyddogion Merched Y Wawr Cangen Caerfyrddin yn cyflwyno siec hael o £700 i Llyfrau Llafar Cymru. Codwyd yr arian mewn Bore Coffi ym Mis Hydref.

Diolch o galon am eich ymdrech a’ch cefnogaeth i’n Apêl “Penwythnos Y Gannwyll”

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Diolch i Eglwysi Gofalaeth Y Parchg Guto Llywelyn am gynnal Oedfaon Penwythnos Y Gannwyll: Tabernacl, Hendygwyn, Bethel, Llanddewifelfrei a’r Trinity, Llanboidy. Gwych!

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Dyma Haf o Lanrug yn cynnal te p’nawn Gwyl y Gannwyll gan wneud elw o £275. Diolch o galon Haf.

GARETH LEWIS – HOGYN O’R FELIN

Ma llyfr Gareth Lewis – Hogyn O’r Felin – Hunangofiant (Meic Pierce – Pobl y Cwm) ar gael ar cd i’r deillion yn rhad ac am ddim.

TECWYN IFAN A SULWYN THOMAS AR HENO

Tecwyn Ifan a Sulwyn Thomas yn siarad am Benwythnos y Gannwyll ar Heno yng nghwmni Sian Thomas a Rhodri Owen. Llun drwy ganiatad Tinopolis

CWRDD DIOLCHGARWCH – BLAENFFOS, SIR BENFRO

Trefnwyd cwrdd diolchgarwch yng Nghapel Blaenffos, sir Benfro gyda’r plant a phobl ifanc yn cymryd rhan. Wedi’r oedfa mwynhaodd pawb ginio yn y festri. Casglwyd £440 yn yr oedfa a’r ginio ar gyfer Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i bawb am drefnu’r cyfan ac am eu haelioni. [...]

MEIRION WYN JONES

CYSTADLEUAETH GOLFF 2016

Mike Williams yn derbyn ei wobr am y Dreif Hyrraf gyda Gwilym Dyfri Jones yn gystadleuaeth golff yn ddiweddar

OEDFA PENWYTHNOS Y GANNWYLL

POSTER YR OEDFA PENWYTHNOS Y GANNWYLL

TECWYN IFAN

Annwyl

A oes modd canfod lle i dair stori am Benwythnos y Gannwyll a drefnir gan Llyfrau Llafar Cyrmu eleni. Dyddiad y tridiau yw 21-23 Hydref ond mae croeso i unrhyw un drefnu digwyddiad ar ddyddiad cyfleus rhwng nawr a’r Nadolig, neu hyd yn oed yn y flwyddyn newydd.

Y newydddion diweddaraf yw bod Tecwyn [...]