Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Rhoddion

Er ein bod wedi derbyn grant hael gan Lywodraeth Cymru i ail-lawnsio’r gwasanaeth hwn, gwnaethpwyd yn glir o’r dechrau taw un grant yn unig oedd hyn, ac y byddai disgwyl i ni godi arian ein hunain i warantu ei ddyfodol.

Dyna pam ein bod wedi lawnsio apêl genedlaethol. Os hoffech wneud cyfraniad – bach neu mawr – byddem yn dra diolchgar. Yr unig beth y gallwn ddweud yw y bydd y grant presennol yn dod i ben Mawrth 2012.

Gwarth o’r mwyaf fyddai i ni adael gwasanaeth fel hwn, sydd wedi rhoi cymaint o bleser a budd diwylliannol i gymaint o ddeillion drwy’r blynyddoedd, i fynd i’r gwellt. Os hoffech ymuno â ni yn ein hymgyrch i achub y gwasanaeth, cysylltwch â ni.

Diolch