Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Cefndir

Y mae tri gwasanaeth yng Nghaerfyrddn wedi bod yn cyd-redeg ers degawdau:

  • Llyfrau Llafar (er 1979)
  • Papur Llafar Y Dellion (1976) a
  • Radio Glangwili (1972).

Bob wythnos bydd rhifynne o’r Papur Llafar yn cael eu darlledu ar Radio Glangwili – gwasanaeth arbennig i gleifion Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Darlledir yr atodiadau misol hefyd – yn y ddwy iaith.

Yn stiwdios Radio Glangwili y recordiwyd y Papur Llafar i ddechre. Yna, gydag ymddangosiad y Llyfrau Llafar, dyma symud i stiwdios pwrpasol ar wahan, ac hyd y dydd heddiw y mae’r ddwy elusen wedi rhannu stiwdios a swyddfeydd.

Drwy gydol yr amser fe gefnogwyd y Llyfrau Llafar gan Gymdeithasau i’r Deillion.