Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Croeso

Llyfrgell Llyfrau Llafar

Llyfrgell Llyfrau Llafar

Dyw LLYFRAU LLAFAR CYMRU/ TALKING BOOKS WALES ddim mewn gwirionedd yn gwbwl newydd. Mae’n rhaid i chi fynd nol 32 mlynedd i ddechrau’r daith.

Fel y byddwch yn sylwi , bu bron i’r hen gynllun fynd i’r gwellt ond daeth Llywodraeth Cymru i’r adwy ac erbyn hyn rydym wedi dechre ar y gwaith dan enw newydd ac yn llawn brwdfrydedd.

Un ffordd ddelfrydol i ni gael sylw i’n gweithgareddau yw sefydlu gwefan – a dyma hi!

Rydym yn siwr y cewch eich synnu at yr hyn sydd yn mynd ymlaen, ac y byddwch yn ein cefnogi yn ein hawydd i sichau dyfodol tymor hir i’r adnodd hwn sydd wedi cynnig maeth diwylliannol i ddeillion a’r rhannol ddall dros y blynyddoedd. Mae’n siwr y bydd gyda chi syniadau pendant ar sut i wella’n gwasanaeth. Croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd.