Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Hanes

Y flwyddyn oedd 1979; y lleoliad – Caerfyrddin; Y person allweddol oedd Rhian Evans, llyfrgellydd yng Ngholeg Y Drindod bryd hynny. Roedd ei golwg yn gwaethygu a meddyliodd y byddai’n syniad gwych i fenthyg llyfrau Cymraeg ar gaset am ddim. Fe’i cefnogwyd yn syth gan Alun R Edwards, Prif Lyfrgellydd Dyfed. Ariannwyd y gwasanaeth gwreiddiol gan Gynllun Creu Gwaith y Llywodraeth. Bedair blynedd ynghynt roedd Rhian wedi dechrau’r Papur Llafar a gai ei recordio yn Radio Glangwili, Gwasanaeth Radio Ysbyty Caerfyrddin.

Ym 1989 pan ddaeth cynllun cyllido’r Llywodraeth i ben, dyma Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn dod i’r adwy. Fe recordiwyd rhai llyfrau ym Mangor ond Caerfyrddin oedd y brif ganolfan recordio dan arweiniad Rhian. Rhoddwyd pwyslais ar recordio Llyfrau Cymraeg ar y dechrau, yna,pan sylweddolwyd bod yna alw, aethpwyd ati i recordio llyfrau Saesneg oedd yn berthnasol i Gymru ar gaset – 2000 i gyd.

Tua diwedd 2010 roedd Cymdeithas Y Deillion Cymru yn wynebu trafferthion ariannol. Un cynnig oedd cau stiwdio Caerfyrddin, symud yr holl deitlau i Fangor gan adael dau weithiwr rhan amser heb swydd.

Yn syth ffurfiwyd pwyllgor bach i geisio achub y gwasanaeth allweddol yma i ddeillion, y rhannol ddall a’r rhai sy’n cael trafferth i ddarllen print yng Nghaerfyrddin. O fewn misoedd llwyddwyd i gael grant o £35,000 gan Lywodraeth Cymru i ail lawnsio’r hen gynllun casetiau fel Llyfrau Llafar Cymru/ Talking Books Wales.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol ar y 24 Ionawr, 2012 ym mae Caerdydd.