|
Ar 31 o Fai eleni trefnwyd taith gerdded gan Anne Lewis, Arberth a godwyd y swm anhygoel o £2222.00 i Lyfrau Llafar Cymru. Yn y llun mae Anne yn cyflwyno’r siec i Rhian Evans Is Gadeirydd a Linda Williams Rheolwr.
Diolchwyd iddi gan Sulwyn Thomas Cadeirydd. Mae rhai o’r cerddwyr yn y llun hefyd.
[...]
Cynhelir Cystadleuaeth Golff lwyddiannus iawn yng Nglwb Golff, Caerfyrddin Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf. Codwyd dros £1500 i Lyfrau Llafar Cymru. Hoffwn ddiolch i Brifysgol Drindod Dewi Sant a phawb arall am ein noddi.
Tim Buddugol oedd CCC 1 – Geraint Roberts; Huw Hafod Jones; Clive Thomas; Jeff Jones
Scôr Unigol – Alan Edwards
Agosaf at [...]
Derbyniwyd £500.00 gan Bapur Bro Clonc i goffrau Llyfrau Llafar Cymru yn ddiweddar. Yn y llun gweler Nia Wyn Davies, Trysorydd Clonc ynghyd â swyddogion y papur bro Gwyneth Davies, Is Gadeirydd; Marian Morgan Cyn Is Gadeirydd; Dylan Lewis, Cadeirydd a Delyth Morgan Phillips, Golygydd yn cyflwyno siec i Rhian Evans a Wynne Vittle ar [...]
Daeth y Cyng. Mansel Charles i Dy Llafar yn ddiweddar, cyn iddo orffen ei flwyddyn fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Yn y llun gweler Mansel yn trosglwyddo siec i Rhian Evans, Is Gadeirydd (chwith) a Linda Williams i gronfa Llyfrau Llafar. Diolchwyd iddo am y rhodd a phob dymuniad da i’r dyfodol.
[...]
Capel y Priordy yn cyflwyno siec o £1000 i Llyfrau Llafar Cymru. Elw cyngerdd ‘Croeshoeliad’. Diolch i Gôr Seingar a Chôr Ty Tawe.
Bu Iris, Rhiannon, Anwen, Llinos a’u plant Harri, Ifan, Tomi, Hanna a Molly yn gweithio’n galed yn trefnu Bore Coffi ym Mhumsaint yn ddiweddar. Codwyd £1000 i Lyfrau Llafar Cymru.
Yn y llun mae’r trefnwyr yn cyflwyno’r siec i Linda Williams ac Iris Owen. Diolch o galon i chi am gefnogi ein elusen.
[...]
Nos Iau, 7 fed o Chwefror, bu swyddogion Llyfrau Llafar Cymru draw i Gaffi Emlyn, Tan-y-groes, Ceredigion. Cyn bod y gynulleidfa luosog yn dechrau chwarae bingo, derbyniodd nifer o elusennau arian gan swyddogion Pwyllgor Lles y pentref. Ymhlith y derbynwyr yr oedd Llyfrau Llafar Cymru. Diolch o galon am siec o £400. Yna, bore dydd [...]
Diolch i Gôr Meibion Caerfyrddin am siec hael o £250 i Lyfrau Llafar Cymru.
Yn y llun mae Dewi Jones Cadeirydd Côr Caerfyrddin yn trosglwyddo’r siec i Sulwyn Thomas Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. Hefyd yn y llun mae Dai Lewis Is Gadeirydd a Steve Thomas Trysorydd.
[...]
Bydd fersiwn Gymraeg y dudalen hon ar gael yn fuan
Huw Michael ac Adrian Evans., cyn Gadeirydd a Thrysorydd Clwb Cinio Caerfyrddin yn cyflwyno siec o £200 i Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i’r aelodau am eu haelioni.
|