Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Tri lle, tair siec sylweddol a llond whilber o ddiolchiadau i bobl Ceredigion.

Nos Iau, 7 fed o Chwefror, bu swyddogion Llyfrau Llafar Cymru  draw i Gaffi Emlyn, Tan-y-groes, Ceredigion. Cyn bod y gynulleidfa luosog yn dechrau chwarae bingo, derbyniodd nifer o elusennau arian gan swyddogion Pwyllgor Lles y pentref. Ymhlith y derbynwyr yr oedd Llyfrau Llafar Cymru.  Diolch o galon am siec o £400.

Yna, bore dydd Gwener, yr 8fed o Chwefror, dyma ni yn elwa unwaith eto gyda swyddogion Cytûn, Llandysul  a’r cylch yn cyflwyno siec o £508 i ni. Cyn y Nadolig roedden nhw  wedi  cynnal noson o ganu carolau a dilyn hynny gyda bore coffi fore Gwener diwethaf. Gwerthfawrogwn  yr ymdrechion  yn fawr iawn.

Yna brynhawn dydd Sadwrn, y 9fed o Chwefror dyma fynd draw i Gribyn i ymuno yn hwyl Gŵyl San Silyn.  Bu’n rhaid i gadeirydd Llyfrau Llafar Cymru wisgo’r Fari Lwyd cyn derbyn siec o £300! Cymdeithas Clotas oedd wedi trefnu’r ŵyl a diolch am gyfraniad swmpus derbyniol arall.
   

Comments are closed.