|
Pan wnaethon ni gais i’r Loteri Genedlaethol am grant, un ffactor bwysig oedd ein bod am deithio o gwmpas Cymru yn ystod y tair blynedd er mwyn hyrwyddo ein gwaith ac ysgogi pobol i feddwl am rywrai a allai elwa o’n gwasanaeth.
Ar ddiwedd cyfnod y grant hael a dderbyniom, dyma ni wedi cwblhau [...]
“Gwych”, “noson i’w chofio”, “noson arbennig iawn”, dyna’r math o ymateb glywyd yng nghyntedd capel y Priordy wrth i’r cannoedd adael wedi dwy awr o Gymanfa’r Hen Ganiadau. Fedrwch chi ddim maeddu’r hen ganeuon a phrofwyd hynny y noson honno wrth i Gor Meibion Caerfyrddin, Aled ac Eleri Edwards, Philip Watkin ac Ann Davies [...]
Daeth criw da ynghyd i agoriad swyddogol Tŷ Llafar, cartref Llyfrau Llafar Cymru a Phapur y Deillion, Caerfyrddin. Sefydlydd y ddau wasanaeth, Rhian Evans gafodd y fraint o agor yr adeilad drwy ddadorchuddio arwydd newydd uwchben y drws ym Mharc Dewi Sant. Ymhlith y gwesteion arbennig yr oedd Maer Tre Caerfyrddin, Cynghorydd Barry Williams a [...]
Roedd cystadleuaeth golff Llyfrau Llafar Cymru yng Nghlwb Golff Derllys dydd Sadwrn Medi 12fed yn lwyddiant ysgubol. Yn dilyn y glaw dros nos fe wenodd y tywydd ar y cystadleuwyr a chafwyd diwrnod i’w gofio. Noddwyd y gystadleuaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae pwyllgor Llyfrau Llafar Cymru yn ddiolchgar dros [...]
Wel, shwd i chi wedi gwyliau’r haf?
Rydym wedi setlo mewn yn dda iawn yn ein cartref newydd ym Mharc Dewi Sant. Penderfynwyd galw’r adeilad yn Tŷ Llafar – enw sy’n cyfleu pwrpas y lle i’r dim. Yma mae’r holl lyfrau yn cael eu recordio, yma hefyd y mae rhifyn wythnosol Papur Llafar Caerfyrddin [...]
Mae’n fis Ebrill cyn troi rownd . Tri mis wedi diflannu yn y prysurdeb o ddidoli a threfnu ar gyfer symud o Bensarn i Dŷ Llafar ym Mharc Dewi Sant. Fe synnech chi faint o stwff gafodd ei daflu i’r sgip ar ol deng mlynedd ym Mhensarn. Diolch i Linda a Phil am weithio mor [...]
Mae 2015 wedi dechre’n dda i ni yn Llyfrau Llafar Cymru. Aeth tri ohonom , Rhian, Linda a minnau am dro i Llety Parc , Aberystwyth i gasglu siec o £1,000 oddi wrth Y Parchedig Nicholas Bee, Ioan Williams ac Alan Evans- swyddogion Gofalaeth Llanilar a’r cylch. Mae 12 o gapeli Presbyteraidd yn yr Ofalaeth [...]
Dyma ni nôl yng Nghaerfyrddin wedi taith lwyddiannus arall. Diolch i bawb am eu croeso a’u parodrwydd i gymryd rhan. Roedd y daith eleni yn wahanol am ein bod yn gofyn i blant ysgolion cynradd ac uwchradd i ddod draw atom a mentro darllen darnau o’u hoff lyfrau. Roedd aelodau o’n tîm ni yn rhyfeddu [...]
Llenyddiaeth plant a phobl ifenc fydd yn cael y sylw yn ystod ail daith Llyfrau Llafar Cymru eleni. Bydd nifer o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn ymarferiad a alle olygu pentwr o lyfrau sain newydd i blant a phobl, ifenc sydd a phroblemau gweld.
Bydd disgyblion ysgolion mewn pum ardal yn cael dewis [...]
Cystadleuaeth Golff Agored Sulwyn Thomas
Bu’r tywydd yn hynod o garedig i’r gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Nghwrs Golff Derllys, Bancyfelin Dydd Sadwrn Hydref 4ydd. Prif noddwyr y gystadleuaeth oedd cwmni WRW a gwnaethpwyd elw o £639 i Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at y raffl ac i staff Clwb Golff Derllys [...]
|