Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS TACHWEDD 2015

Pan wnaethon ni gais i’r Loteri Genedlaethol am grant, un ffactor bwysig oedd ein bod am deithio o gwmpas Cymru yn ystod y tair blynedd er mwyn hyrwyddo ein gwaith ac ysgogi pobol i feddwl am  rywrai a allai elwa o’n gwasanaeth.

Ar ddiwedd cyfnod y grant hael a dderbyniom, dyma ni wedi cwblhau ein trydedd taith. A dyna hyfryd yw medru dweud ein bod wedi cael croeso mawr a dysgu llawer oddi wrth cynifer o bobol- hen ac ifanc- a hynny yn llythrennol o Fôn i Fynwy y tro hwn.

 Plant Ysgol y Graig ac Ysgol y Talwrn, dwy ysgol gynradd, ddaeth i’n gweld ni gyntaf yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni. Hedfanodd awr i rywle wrth iddyn nhw ddarllen darn o’u hoff lyfr, ninnau yn recordio a llosgi cryno ddisg iddyn nhw gael mynd â hi adref gyda nhw. Y syniad oedd dangos i’r plant sut ydym yn recordio tua 40 llyfr bob blwyddyn ar gyfer pobol â nam ar eu golwg. Mae’n sesiwn ddifyr ymhobman , yn enwedig o ganfod gymaint y mae plant yn mwynhau darllen llyfrau diddorol.

 O’r cynradd i’r uwchradd wedyn yng nghwmni disgyblion ysgolion Llangefni a Bodedern.  Ein gwestai oedd yr awdur Marlyn Samuel.- awdur dau lyfr sydd eisoes wedi eu recordio yng Nghaerfyrddin,  “Mwynhau’r  Haul” a “Milioners “. Sgwrs anffurfiol oedd hon, ond gwers werthfawr ar sut i fynd ati i ysgrifennu a meddwl yn greadigol.

 Braf oedd cael cwmni Rhun ap Iorwerth AC  a diolch i bawb wnaeth droi i fewn a’n derbyn ni wrth i ni rannu taflenni o gwmpas y dref wedyn.  Mae’ n diolch pennaf i Dylan Morgan am drefnu’r cyfan ar ein cyfer- yntau, yn ifanc iawn, wedi helpu Rhian gyda’r Cynllun Casetiau flynyddoedd yn ôl.

 I dref hynafol Rhuthun wedyn  a diwrnod prysur- diolch i Morfudd a Menna Jones a Dafydd Williams – nai y bardd Waldo Williams.  Fel roedd hi’n digwydd roedd un o’n haelodau ni, Wynn Vittle â chysylltiad agos â  Waldo. Felly roedd disgyblion Ysgol Brynhyfryd yn ffodus i gael dau a allai roi cefndir amrhisiadwy iddyn nhw.  Cyn hynny roedd plantos ysgol Penbarras wedi mwynhau darllen yn gyhoeddus a chael profiad o wynebu’r meic.

 Cawsom gwmni arbennig yn ystod sesiwn y prynhawn  - Betty Watson. Yn 100 oed, roedd ei hymateb  i’n gwaith yn ddigon i godi calon – hithau wedi colli ei golwg, ac yn drwm ei chlyw, er hynny yn dibynnu ar bapur a llyfr llafar.

 Mari Lisa, enillydd Gwobr Daniel Owen eleni ym Meifod oedd ein gwestai yn Llanfair Caereinion.  Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Caerfyrddin a Llanwrin y dyddie hyn, a dyna fonws i ddisgyblion   yr  ysgol uwchradd, oedd cael awr o glywed y llenor yn rhoi cefndir y nofel arobryn “Veritas”  a chynghorion  buddiol ar lenydda.

 Eto roedd adran gynradd yr ysgol wedi bod yn darllen darne a chawsom gwmni rhai  sy’n derbyn  ein gwasanaeth.  Ymhlith y rhai a alwodd draw i’r Institiwt yn Llanfair oedd Cadeirydd  pwyllgor gwaith Eisteddfod Maldwyn eleni, Beryl Vaughan , a fu’n sôn  amdanom y noson honno ar raglen. Geraint Lloyd ar Radio Cymru.  Diolch i Mary Steele am drefnu ein hymweliad â Maldwyn.

 I orffen ein taith, lawr â ni i gartref yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesa, sef Y Fenni.  Roedd y sesiynne  ychydig yn wahanol y tro hwn.  Aeth Rhian, Eirlys a Linda i ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni, tra arhosodd Elsbeth, Mal a minne yn y Ganolfan Gymdeithasol yn Heol y Parc.  Roedd Marion Pearce wedi trefnu bod cynrychiolwyr yn galw yn ystod y bore.  Sioc i bawb oedd gweld criw o ffrindie Elsbeth a Mal, cyd aelodau o Gymdeithas Edward Llwyd, oedd ar wyliau yn yr ardal, yn galw i fewn. Cawsom , fel eraill, wybod am Llyfrau

Comments are closed.