Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

YR URDD A LLYFRAU LLAFAR CYMRU

 YR URDD A LLYFRAU LLAFAR CYMRU 

Mae Llyfrau Llafar Cymru ac Urdd Gobaith Cymru wedi ffurfio partneriaeth newydd. Mewn seremoni hyfryd yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd cadarnhawyd rhai syniadau lle gall y ddau gorff gyd-weithio.  

Rydym yn hynod o falch bod y cyd-weithio ‘ma yn digwydd am nifer o resymau. Bob blwyddyn bydd yr Urdd yn cyhoeddi cynnyrch llenyddol arobryn Eisteddfod Genedlaethol y mudiad.  O hyn ymlaen fe fydd fersiwn sain o’r cynnyrch gwych yna ar gael i bobol sydd yn cael trafferth i ddarllen print drwy Llyfrau llafar Cymru.   Maes o law hefyd fe fydd rhai o gylchgronau’r mudiad yn cael  eu recordio ar gyfer plant dall a rhai â phroblemau gweld. 

Yn ogystal â hynny , bydd y Mudiad yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu stori arbennig gan blant ar gyfer plant sy’n methu gweld.   Bydd yn sialens arbennig i’r cystadleuwyr ifanc a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi’r fuan yng nghylchgronau’r Urdd. 

A does dim angen poeni a fedr plant ateb y sialens.   Yn rhan o’r seremoni ym Mae Caerdydd, gwahoddwyd Awen Caron Roberts, 11 oed o Ysgol Pen Cae i ddarllen stori a enillodd iddi wobr arbennig yn eisteddfod Caerffili a’r cylch.  Stori arbennig yn llawn dychymyg – un o lenorion y dyfodol heb oes nag oni bai. Fe wnaethon ni recordio’r stori er mwyn ei chynnwys yn y detholiad cyntaf. 

Un o ser cerddorol mawr y dyfodol, heb os,yw Charlie Lovell – Jones, disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.  Y fe enillodd y fedal Gyfansoddi eleni, ond y mae hefyd yn offerynnwr dawnus.  Byddwn yn cofio ei ddatganiad ar y ffidil am beth amser. 

Cyflwynwyd rhannau o weithie arobryn eisteddfodau diweddar, wedi eu recordio gan y beirdd a’r llenorion, ar gryno ddisg, yn arwydd o beth y gellir ei gyflawni yn y dyfodol. 

Croesawodd Efa Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr yr Urdd, y datblygiad gan nodi pa mor berthnasol oedd hyn i ddelfrydau’r Mudiad a’r potensial i ehangu’r deunydd ar gyfer deillion ac eraill i’r dyfodol. Meddai -“ Mae na gyfoeth o ddeunydd ar gael ac y mae posib didoli a chywain digon i gynnal oriau o waith gwrando, ac y mae’r Urdd yn falch bod modd agor y maes hwn i genedlaethau newydd ifanc.”

 

Comments are closed.