Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS IONAWR 2016

I ddechre, dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gan obeithio y byddwch yn parhau i ddefnyddio ein gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn. Ac y mae rhywbeth yn dweud wrtho i y bydd hi’n flwyddyn gyffrous a phrysur i Llyfrau Llafar Cymru.

Yn dilyn ein cyfarfod gydag Urdd Gobaith Cymru rydym wrthi yn paratoi CD o enillwyr sydd wedi disgleirio yn eisteddfodau diweddar y mudiad. Yn ogystal â hynny mae adran Gylchgronau’r Urdd wrthi yn llunio cystadleuaeth ysgrifennu stori newydd .  Bydd y manylion yn rhifyn nesaf o CIP.  Mae’n bosib eich bod yn adnabod rhyw lenor ifanc a allai gystadlu ac ennill pecyn o lyfrau o Wasg Gomer.  Diolch i’r Wasg a’r Mudiad am gydio yn y gystadleuaeth lle mae’r pwyslais ar gynhyrchu stori yn benodol ar gyfer plant a phobl ifenc sydd â phroblemau gweld.

Gobeithio eich bod yn dal i bori yn y catalog – sydd yn cael ei ddiweddaru yn gyson wrth i ni recordio llyfrau newydd.

Mae cyfnod grant y Loteri Fawr wedi dod i ben ddiwedd 2015.  Felly mae hynny yn gosod sialens newydd i ni yn ystod eleni a thu hwnt.  Cyn bo hir rydym am gyhoeddi cynllun a allai osod seiliau ariannol cadarn i’r gwasanaeth.  Taw piau hi ar hyn o bryd, ond mae’n siwr y cawn gefnogaeth eang i’r syniad pan fydd hi’n amser i ni ryddhau mwy o wybodaeth.  Byddwch yn barod, weda i.

Fel arfer , os oes gyda chi syniadaui i’n helpu i fynd ymlaen â’r gwaith, rhowch wybod. Yn sicr ,os gwyddoch chi am unrhyw un ddylai fod ar restr ein cwsmeriaid, ffoniwch y rhif arferol -  01267 238225.  Fe fydd Linda a Phil yn falch o glywed oddi wrthych.

Hwyl am y tro.

06 CIP Chwefror 2016 Awr Cystadleuaeth[proof]1.06

Comments are closed.