Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS HYDREF 2015

“Gwych”, “noson i’w chofio”, “noson arbennig iawn”, dyna’r math o ymateb glywyd yng nghyntedd capel y Priordy wrth i’r cannoedd adael wedi dwy awr o Gymanfa’r Hen Ganiadau.  Fedrwch chi ddim maeddu’r hen ganeuon a phrofwyd hynny y noson honno wrth i Gor Meibion Caerfyrddin, Aled ac Eleri Edwards, Philip Watkin ac Ann Davies ganu’r hen ffefrynnau. Cafodd y gynulleidfa gyfle i ‘w morio hi hefyd a buodd yna ddim gwell canu yn y Priordy erioed.

Cyfeilyddion y noson oedd Meinir Jones Parry, Meinir Lloyd a Heather Williams . Llywyddion y noson oedd Dr Mair ac Elin Walker. A diolch i’r ddwy am gyfraniadau hael iawn.

Ond mae’r diolch pennaf yn mynd i’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths. Y fe, gyda’i wraig Meinir, drefnodd y noson i godi arian i’r  ddwy elusen y mae e wedi eu dewis i’w cefnogi ym mlwyddyn ei dymor fel Cadeirydd Cyngor sir Gaerfyrddin.  Y fe lywiodd y noson yn wych hefyd a soniodd am y ddwy elusen- Tenovus Gorllewin Cymru a Llyfrau Llafar Cymru.

Diolch i bawb gymerodd ran ac i bawb ddaeth i fwynhau’r  noson fythgofiadwy.

Rydym yn cwblhau’n trefniadau ar gyfer ein trydedd taith.  Y tro hwn byddwn yn ymweld â Llangefni, Rhuthun, Llanfair Caereinion a’r Fenni.  Y tro yma y mae cyfeillion lleol yn hybu ein hymweliad ac y mae’n siwr eich bod wedi gweld hysbysebion yn barod.

Byddwn ar daith rhwng 19 a 22 Hydref ac ar 12 Tachwedd byddwn yn y brif ddinas i lawnsio cystadleuaeth newydd mewn cyd-weithrediad ag Urdd Gobaith Cymru.

Os am fwy o fanylion, ffoniwch Tŷ Llafar. – 01267238225

(Llun da Beti Wyn)

Sulwyn Thomas  01267235385/07778435765

Comments are closed.