Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

AGOR TY LLAFAR

Daeth criw da ynghyd i agoriad swyddogol Tŷ Llafar, cartref Llyfrau Llafar Cymru a Phapur y Deillion, Caerfyrddin. Sefydlydd y ddau wasanaeth, Rhian Evans gafodd y fraint o agor yr adeilad  drwy ddadorchuddio arwydd newydd uwchben y drws ym Mharc Dewi Sant. Ymhlith y gwesteion arbennig yr oedd Maer Tre Caerfyrddin, Cynghorydd Barry Williams a chadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths.

 Diolch i bawb a fu’n weithgar yn paratoi ar gyfer yr achlysur  ac i’r BBC a Heno am y sylw a roddwyd i’r digwyddiad.

 Fel y dywedodd Rhian, dyma’r pumed  canolfan i’r Papur Llafar a ‘r Llyfrau  Llafar er sefydlu’r cyntaf ym 1976, a’r ail, fel y Cynllun Casetiau Cymraeg, ym 1979. Ail lansiwyd y cynllun hwnnw dan  enw newydd, sef Llyfrau Llafar Cymru, yn 2010.

 

Comments are closed.