Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

LLWYDDIANT YSGUBOL YN DERLLYS

 Roedd cystadleuaeth golff Llyfrau Llafar Cymru yng Nghlwb  Golff Derllys dydd Sadwrn Medi 12fed yn lwyddiant ysgubol. Yn dilyn y glaw dros nos fe wenodd y tywydd ar y cystadleuwyr a chafwyd diwrnod i’w gofio. Noddwyd y gystadleuaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae pwyllgor Llyfrau Llafar Cymru yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth hael y Brifysgol. Mae’r pwyllgor hefyd yn ddyledus i Rhian Walters a’i staff yn Derllys am y croeso arbennig a’u cefnogaeth eleni eto i’r gystadleuaeth.

Y canlyniadau :

Enillydd y Gystadleuaeth Unigol ac yn derbyn Cwpan Y Drindod Dewi Sant gyda 42 o bwyntiau oedd John Morris.

Y Tîm Gorau ac yn derbyn Tarian Y Drindod Dewi Sant oedd tîm Dylan Williams yn cynnwys hefyd John Morris, Alun Rees a Tom James. Daeth y tîm i mewn gyda 95 o bwyntaiau – ymdrech ardderchog.

Alan Lewis wnaeth ennill yr Agosaf i’r Twll a Gareth Gravell wnaeth ennill y Dreif Hiraf.

Gwnaethpwyd elw o £685.50. Diolch i bawb a gyfrannodd i’r achlysur. Diwrnod o fwynhad ac edrychwn ymlaen i’r gystadleuaeth y flwyddyn nesaf eto.

 

 

Comments are closed.