Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS MEDI 2015

Wel, shwd i chi wedi gwyliau’r haf?

 Rydym wedi setlo mewn yn dda iawn yn ein cartref newydd ym Mharc Dewi Sant.  Penderfynwyd galw’r adeilad yn Tŷ Llafar – enw sy’n cyfleu pwrpas y lle i’r dim.  Yma mae’r holl lyfrau yn cael eu recordio, yma hefyd y mae rhifyn wythnosol Papur Llafar Caerfyrddin a’r cylch yn cael ei baratoi yn Gymraeg a Saesneg.

 Dyma bumed cartref y ddau wasanaeth er sefydlu y papur llafar ym 1976 ac y mae tipyn o gyffro y dyddie hyn wrth i ni baratoi ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 25 Medi am ddau o’r gloch y prynhawn. 

 Yr un fydd yn cael y fraint o droi’r allwedd fydd neb llai na Miss Rhian Evans ei hun.  Dewis delfrydol wrth gwrs gan taw hi fu’n gyfrifol am lawnsio’r ddau wasanaeth yn y saith degau.  Dros y blynyddoedd mae ei chyfraniad wedi bod yn amrhisiadwy.  Heb ei brwdfrydedd a’i sêl dros y ddwy elusen, mae’n siwr na fyddai’r un llewyrch ar bethe. Braint yn wir fydd cael ei chyflwyno ar y diwrnod.

 Bu’r symud o Bensarn yn weddol ddi-drafferth a thrwy’r cyfan i gyd llwyddodd Linda a Phil barhau â‘r gwaith recordio digidaleiddio ôl- rifynnau. 

 Rydym ar fin recordio sgwrs gydag enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, sef Mari Lisa, merch o Lanwrin, nid nepell o Meifod lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ers blynyddoedd bellach mae Mari Lisa a’i theulu yn byw yng Nghaerfyrddin ac felly rydym yn hynod o falch bod rhywun o’n plith wedi ennill un o brif gystadleuthau ein Prif Ŵyl.

 Wrth ein bod yn cwblhau’r trefniadau ar gyfer ein trydedd taith ym mis Hydref o gwmpas Cymru i godi ymwybyddiaeth, rydym hefyd yn casglu enwe ar gyfer ein gwibdaith.  Ffoniwch Linda a Phil am fwy o wybodaeth!!!    01267 238225 yw’r rhif wrth gwrs.

 Hwyl am y tro

 

Sulwyn

Comments are closed.