Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS EBRILL 2015

Mae’n fis Ebrill cyn troi rownd .  Tri mis wedi diflannu yn y prysurdeb o ddidoli a threfnu ar gyfer symud o Bensarn i Dŷ Llafar ym Mharc Dewi Sant.  Fe synnech chi faint o stwff gafodd ei daflu i’r sgip ar ol deng mlynedd ym Mhensarn.  Diolch i Linda a Phil am weithio mor galed yn penderfynu beth i’w daflu a beth i’w gadw, yna  pacio a chofnodi.

Ac o sôn am gadw roedd angen dwsenni o focsys i’w llenwi gyda’r  holl gasetie a chryno ddisgie.  Pan ych chi’n sôn am dros 35 mlynedd o recordio llyfre, rych chi’n gorfod meddwl ble mae dros ddwy fil o deitle i gael gofod yn y cartref newydd.   Roedd angen rhywun abal i greu shilffoedd ym mhob twll a chornel o’r adeilad newydd.  Diolch bod Lyn a Delme ar gael i wneud y gwaith.  Erbyn hyn mae popeth yn ei briod le  yn Nhy Llafar.

Ond does dim gwerth sôn am recordio heb bod rhywun yn medru ail osod y stiwdio yn ei chartref newydd .  Unwaith eto mae’r Llyfrau Llafar a Phapur Llafar Caerfyrddin a’r cylch yn ffodus bod Dave Thomas yn arbenigwr yn y maes a dyma oedd y trydydd tro iddo adeiladu stiwdio ar gyfer  y ddwy  elusen. Can mil o ddiolch Dave.

A diolch i bawb a fu’n helpu mewn ryw ffordd neu gilydd.  Maen nhw yn dweud bod symud yn peri mwy o ofid na bron i ddim byd arall mewn bywyd.  Felly mae’n dda dweud ein bod ni wedi goroesi’r symud heb ddim cwmpo mas nac anghytuno.

Mae’r gwaith recordio wedi ail ddechre.  Ac un digwyddiad pwysig i edrych mlan ato  yw y byddwn nol yng Nghlwb Golff Derllys am bencamwriaeth arall i godi arian i’r Llyfrau Llafar ar y 12 fed o Fedi.  Os oes rhywun am gymryd rhan  a ffurfio tim, rhowch wybod i ni.

Rydym wrthi yn trafod manylion ein taith am eleni ym mis Hydref . Mae gyda ni gynllunie i lawnsio cystadleuaeth arbennig i ysgolion  Cymru wedi i ni brofi’r brwdfrydedd ymhlith plant a phobl ifenc yn ystod ein dwy daith gyntaf i godi proffil ein gwasanaeth.

Mwy o fanylion am hyn i gyd yn ystod yr wythnose nesa pan fydd gyda ni fwy o amser i ysgrifennu pwt fel hyn.

Cofiwch nad yw’n rhif ni wedi newid – 01267238 225

 

Ond dyma’r cyfeiriad newydd-

 

Llyfrau Llafar Cymru

Tŷ Llafar

Adeilad 23

Parc Dewi Sant

Heol Ffynnon Job

Caerfyrddin

SA31 3HB

 

Hwyl am y tro.

Comments are closed.