Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

CYSTADLEUAETH GOLFF AGORED SULWYN THOMAS

Cystadleuaeth Golff Agored Sulwyn Thomas

Bu’r tywydd yn hynod o garedig i’r gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Nghwrs Golff Derllys, Bancyfelin Dydd Sadwrn Hydref 4ydd. Prif noddwyr y gystadleuaeth oedd cwmni WRW a gwnaethpwyd elw o £639 i Llyfrau Llafar Cymru. Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at y raffl ac i staff Clwb Golff Derllys am eu croeso a’u caredigrwydd. Mansel Thomas a Gareth Gravell drefnodd y gystadleuaeth a bu Dianne a Glenys yn ddiwyd wrthi yn gwerthu tocynnau raffl a chofnodi. Diolch hefyd i Adrian Evans am dynnu llwyth o luniau i gofnodi’r achlysur. Bu’r ymateb i’r gystadleuaeth newydd hon yn ffafriol dros ben a byddwn yn dychwelyd i’r Derllys yn 2015.

Y Tim Buddugol: John Evans,Howard Thomas, Alan Dean a Selwyn Humphreys o Glwb Caerfyrddin gyda 88 o bwyntiau

Y Tim Buddugol

Comments are closed.