YR URDD A LLYFRAU LLAFAR CYMRU
Mae Llyfrau Llafar Cymru ac Urdd Gobaith Cymru wedi ffurfio partneriaeth newydd. Mewn seremoni hyfryd yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd cadarnhawyd rhai syniadau lle gall y ddau gorff gyd-weithio.
Rydym yn hynod o falch bod y cyd-weithio ‘ma yn digwydd am nifer o resymau. Bob blwyddyn bydd yr Urdd yn cyhoeddi cynnyrch llenyddol arobryn Eisteddfod Genedlaethol y mudiad. O hyn ymlaen fe fydd fersiwn sain o’r cynnyrch gwych yna ar gael i bobol sydd yn cael trafferth i ddarllen print drwy Llyfrau llafar Cymru. Maes o law hefyd fe fydd rhai o gylchgronau’r mudiad yn cael eu recordio ar gyfer plant dall a rhai â phroblemau gweld.
Yn ogystal â hynny , bydd y Mudiad yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu stori arbennig gan blant ar gyfer plant sy’n methu gweld. Bydd yn sialens arbennig i’r cystadleuwyr ifanc a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi’r fuan yng nghylchgronau’r Urdd.
A does dim angen poeni a fedr plant ateb y sialens. Yn rhan o’r seremoni ym Mae Caerdydd, gwahoddwyd Awen Caron Roberts, 11 oed o Ysgol Pen Cae i ddarllen stori a enillodd iddi wobr arbennig yn eisteddfod Caerffili a’r cylch. Stori arbennig yn llawn dychymyg – un o lenorion y dyfodol heb oes nag oni bai. Fe wnaethon ni recordio’r stori er mwyn ei chynnwys yn y detholiad cyntaf.
Un o ser cerddorol mawr y dyfodol, heb os,yw Charlie Lovell – Jones, disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Y fe enillodd y fedal Gyfansoddi eleni, ond y mae hefyd yn offerynnwr dawnus. Byddwn yn cofio ei ddatganiad ar y ffidil am beth amser.
Cyflwynwyd rhannau o weithie arobryn eisteddfodau diweddar, wedi eu recordio gan y beirdd a’r llenorion, ar gryno ddisg, yn arwydd o beth y gellir ei gyflawni yn y dyfodol.
Croesawodd Efa Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr yr Urdd, y datblygiad gan nodi pa mor berthnasol oedd hyn i ddelfrydau’r Mudiad a’r potensial i ehangu’r deunydd ar gyfer deillion ac eraill i’r dyfodol. Meddai -“ Mae na gyfoeth o ddeunydd ar gael ac y mae posib didoli a chywain digon i gynnal oriau o waith gwrando, ac y mae’r Urdd yn falch bod modd agor y maes hwn i genedlaethau newydd ifanc.”