I ddechre, dyw hi ddim yn rhy hwyr i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gan obeithio y byddwch yn parhau i ddefnyddio ein gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn. Ac y mae rhywbeth yn dweud wrtho i y bydd hi’n flwyddyn gyffrous a phrysur i Llyfrau Llafar Cymru.
Yn dilyn ein cyfarfod gydag Urdd Gobaith Cymru rydym wrthi yn paratoi CD o enillwyr sydd wedi disgleirio yn eisteddfodau diweddar y mudiad. Yn ogystal â hynny mae adran Gylchgronau’r Urdd wrthi yn llunio cystadleuaeth ysgrifennu stori newydd . Bydd y manylion yn rhifyn nesaf o CIP. Mae’n bosib eich bod yn adnabod rhyw lenor ifanc a allai gystadlu ac ennill pecyn o lyfrau o Wasg Gomer. Diolch i’r Wasg a’r Mudiad am gydio yn y gystadleuaeth lle mae’r pwyslais ar gynhyrchu stori yn benodol ar gyfer plant a phobl ifenc sydd â phroblemau gweld.
Gobeithio eich bod yn dal i bori yn y catalog – sydd yn cael ei ddiweddaru yn gyson wrth i ni recordio llyfrau newydd.
Mae cyfnod grant y Loteri Fawr wedi dod i ben ddiwedd 2015. Felly mae hynny yn gosod sialens newydd i ni yn ystod eleni a thu hwnt. Cyn bo hir rydym am gyhoeddi cynllun a allai osod seiliau ariannol cadarn i’r gwasanaeth. Taw piau hi ar hyn o bryd, ond mae’n siwr y cawn gefnogaeth eang i’r syniad pan fydd hi’n amser i ni ryddhau mwy o wybodaeth. Byddwch yn barod, weda i.
Fel arfer , os oes gyda chi syniadaui i’n helpu i fynd ymlaen â’r gwaith, rhowch wybod. Yn sicr ,os gwyddoch chi am unrhyw un ddylai fod ar restr ein cwsmeriaid, ffoniwch y rhif arferol - 01267 238225. Fe fydd Linda a Phil yn falch o glywed oddi wrthych.
Hwyl am y tro.