Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS EBRILL 2013

MERCHED Y WAWR PENCADER

ELIFFANT PINC

]Mae’n siwr eich bod wedi gweld un o’r eliffantod pinc yma mewn siop neu dafarn rhywbryd. Bocsys casglu ydyn nhw i godi arian i Lyfrau Llafar Cymru ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi derbyn y bocsys ac hefyd i chi sydd wedi eu llenwi . Synnech faint o gyfraniad yw e i ni wrth i ni gryfhau ein sefyllfa ariannol i’r dyfodol. Os digwydd eich bod yn adnabod rhywun a alle gymryd un o’r blychau yma, rhowch wybod i ni ar 01267 238225 ac fe wnawn drefniadau pellach.

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur – yn enwedig dros gyfnod Gŵyl Dewi. Mae Rhian,. Linda a minnau wedi ymweld â nifer o gymdeithasau gan gyflwyno’n stori yn ein ffordd fach ein hunain.

Rydych eisoes wedi gweld be ddigwyddodd wrth i nifer ohonom ymuno ag aelodau Cadle a chapeli eraill dan ofal Brenig Davies. Cyn hynny, ac wedyn, buom yn diddordi merched y WI Llangynnwr, Caerfyrddin, Pum Heol, Llanelli ac fe ddylwn ychwanegu i mi gael croeso mawr yng nghinio Gŵyl Dewi Merched y Wawr, Llandeilo. Cefais i noson hyfryd yng nghwmni gwragedd Capel Cross Inn, Dryslwyn hefyd. Ymhob un o’r cyfarfodydd yna roeddem yn gadael yn gyfoethocach, a diolch i bawb am eu haelioni.

Cinio Gŵyl Dewi oedd cinio Merched y Wawr , Pencader hefyd.(Llun) Roedden nhw wedi gwahodd Rhian a minnau i dderbyn siec o £300 – sef elw’r Ffair Nadolig a gynhaliwyd yn arbennig i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru. Can mil o ddiolch iddyn nhw wrthgwrs. Rydym yn fwy na pharod i ymweld ag unrhyw gymdeithas neu grŵp i ledaenu’r neges.

Rydym yn gwerthfawrogi’r diddordeb a ddangosir yn gyson yn ein gwaith yn enwedig wedi’r newyddion gwych ein bod wedi llwyddo i i gael grant sylweddol gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol. Testun dathlu oedd hwnnw ac fe fu criw ohonom mas am bryd o fwyd Indiaidd yn y Sheeshmahal i nodi’r cam pwysig yn ein hanes. Roedd yn gyfle i ddiolch i Margaret a Mathew am eu cymorth i gyflwyno cais mor drylwyr.

Yn ystod mis Mawrth hefyd cawsom gyfarfod buddiol iawn yng nghwmni Lowri Griffiths o Strôc Cymru. En bwriad yw cyd-weithio gyda’r gwasanaeth hwnnw er mwyn helpu pobl sydd yn gwella o’r afiechyd i fwynhau llyfrau unwaith eto, a hwyluso’r cam rhwng gwrando a darllen yn y pen draw.

Ddiwedd Ebrill rydym am ymweld â chanolfan RNIB Cymru yng Nghaerdydd gyda’r bwriad o gyd-weithio ymhellach gyda hwythau hefyd.

Mae hysbysebion yn tynnu sylw at ein gwaith wedi dechrau ymddangos mewn nifer o bapruau bro drwy Gymru gyfan, ac fe fydd rhagor i ddilyn yn ystod y misoedd nesa – diolch i gyfraniad hael Cronfa Ray Gravell a’i Ffrindiau.

Fel y gwelwch rydym yn awyddus iawn i chwilio am wrandawyr newydd, felly os gallwch ein helpu busaem yn ddiolchgar dros ben. Rydym yn grediniol bod llawer, llawer mwy a alle elwa o’r gwasanaeth, a dyw’r gwaith ond megis dechrau.

Hwyl am y tro.

Sulwyn

Comments are closed.