Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BETHLEHEM, CADLE, FFORESTFACH

BETHLEHEM, CADLE, FFORSTFACH

Aeth dirprwyaeth o’r Llyfrau Llafar – Linda, Elsbeth, Margaret, Rhian a Sulwyn draw i gapel Bethlehem, Fforestfach nos Wener, yr 8fed o Fawrth i godi siec anferth o £2000. Dewisodd capeli Bethlehem.Cadle, Ebeneser a Brynteg, Gorseinon, dan ofal y gweinidog, y Parchedig Brenig Davies, Llyfrau Llafar Cymru fel eu helusen am y flwyddyn ddiwethaf, a dyna paham yr oedd gwahoddiad i ni fynd draw i’w noson o Gawl a Chân.

Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cymwynas anferthol. Dyma’r swm uchaf i ni ei dderbyn oddi wrth unrhyw gymdeithas neu gapel mewn ymateb i’n hapêl.

Yn y llun y mae aelodau o’r tri chapel, a Ryan a William, dau o’r aelodau ifancaf.

Comments are closed.