Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS MEHEFIN 2013

Blog Y Cadeirydd

Fore Sul, 26 Mai bu Linda yn un o ugain a fu ar daith gerdded o gwmpas Caerfyrddin i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru. Clwb Pêl Droed Caerfyrddin a drefnodd y daith . Mae nhw wedi bod yn ddigon caredig i’n dewis ni fel eu helusen am eleni ac wedi trefnu nifer o weithgareddau i godi arian. Cewch fwy o fanylion eto wedi i ni dderbyn y swm terfynnol.

Cawsom anrheg annisgwyl a gwahanol yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd. Y cyfaill, Sion Jones yn galw heibio gyda thair CD – pregeth anfarwol ei dad, y diweddar Barchedig Idwal Jones ynghyd â sgyrsiau difyr a recordiwyd flynyddoedd maith yn ôl. Nawr, i lawer, mae Idwal Jones yn enwog fel yr un a greodd arwr y pumdegau – Gari Tryfan, ond roedd yn ddarlledwr arbennig ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Sion, a’i ddwy chwaer, Betsan a Gwyneth am adael i ni gael copiau o’r cynnyrch gwerthfawr hyn. Mae nhw nawr ar gael i chi – gwsmeriaid Llyfrau Llafar Cymru.

Yn dilyn ein cyfarfod buddiol gyda Lowri Griffiths o Strôc Cymru, buom mewn cyfarfod â phrif swyddog yr RNIB Cymru, Ceri Jackson. Trafodwyd nifer o bynciau pwysig er mwyn hyrwyddo cydweithrediad iach rhyngom. Osgoi unrhyw ddyblygu di-anghenraid oedd un o’r pwyntiau pwysicaf a’n bod ni yn hysbysebu y deunydd sydd ar gael gan y ddau gorff ar y cyd er lles pawb. Edrychwn ymlaen i weld sut y bydd y bartneriaeth yn datblygu yn ystod misoedd nesaf.

Rydm yn y broses o gynhyrchu catalog newydd yn sgil derbyn grant o £250 oddi wrth y Cyngor Llyfrau. Diolch iddyn nhw am gymwynas arall. Mae nhw eisoes wedi helpu ni i drefnu’r daith i hyrwyddo’n gwasanaeth ym mis Medi. Taith wythnos fydd hi – yn dechrau yn Siop Lewis, Llandudno, yna Palas Print, Caernarfon, Inc , Aberystwyth, Siop Sian yng Nghrymych gan orffen y daith yn Nhy Tawe, Abertawe. Mwy am hynny eto.

Cofiwch bod Linda a Phil ar gael ar 01267 238225 os ydych am wybodaeth bellach.

Hwyl am y tro

Sulwyn

Comments are closed.