Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG MIS RHAGFYR 2016

Blog Rhagfyr 2016

Dyma ddod i ddiwedd blwyddyn arall. Mae’r Nadolig yn nesau ac yng nghanol yr holl brysurdeb rw i wedi cael y pleser o fod mewn dwy Ŵyl arbennig- dwy Ŵyl y Goeden. Roedd yr un gynta yn Salem , Llandeilo , a’r ail yn Llanddarog. Yn Salem, roedd y capel y llawn o goed Nadolig wedi eu haddurno yn hyfryd: yn Llanddarog y cyfan, yr un mor lliwgar, wedi ei leoli yn Eglwys y Plwyf.

Beth sydd â wnelo hyn i gyd â Llyfrau Llafar Cymru meddech chi. Mae’r ateb yn syml iawn. Dyma sut y gwelodd caredigion y ddau le yn dda i gefnogi Penwythnos y Gannwyll eleni.

Ar un adeg canhwyllau fyddai’n goleuo’r coed Nadolig  . Wiw i chi wneud  rhywbeth tebyg y dyddiau hyn . Byddai swyddogion Iechyd a Diogelwch ar eich pennau mewn chwinciad!

Goleuadau lectrig, cannoedd ohonyn nhw a ddefnyddiwyd yn y ddau leoliad.

O oleuo coed fel hyn, roedd y symboliaeth yn union yr hyn yr oeddem ni yn ei gynnig yn y syniad gwreiddiol- bod  cynnau cannwyll yn golygu goleuo tywyllwch a chynnig gobaith.  Dyna , y credwn, yr ydym ni, yn Llyfrau Llafar Cymru, yn  ei wneud drwy  baratoi llyfrau sain i bobl na fedr weld  print.

Canlyniad arall yw bod Gŵyl y Goeden yn tynnu cymunedau at ei gilydd, yn rhoi cyfle i’r gwahanol gymdeithasau yn yr ardaloedd i addurno ac arddangos. A beth gwell yn nhymor ewyllys da?

Ac y mae’n dda gen i ddweud bod Penwythnos y Gannwyll wedi ysgogi cymunedau, cymdeithasau, capeli ac eglwysi i drefnu gweithgareddau a gwasanaethau i godi arian i ni fel gwasanaeth.   Diolch o galon i bawb o bob rhan o Gymru. Gwerthfawrogir pob cyfraniad yn fawr.

Bu’n flwyddyn brysur. Recordiwyd dros 40 o lyfrau ac y mae cynlluniau ar y gweill  ar gyfer y flwyddyn newydd. Un bwriad yw recordio llyfr Hywel Emrys, Derek yn  “Pobol y Cwm”  Eisoes mae llyfr Gareth Lewis, Meic Pierce, ar gael ar CD.  Alun Charles sydd wedi darllen y llyfr hwnnw gan fod Gareth yn colli ei olwg. Fe wnes i gyfarfod Gareth y dydd o’r blaen a mynegodd ei siom na fyddai’n medru darllen llyfr ei ffrind, Hywel.  Wel, mae Hywel wedi addo dod i Tŷ Llafar i recordio ei lyfr yn y flwyddyn newydd i fodloni ei ffrind a selogion Llyfrau Llafar Cymru!

A dyna, mewn un paragraff, pam bod ein gwasanaeth yn dal yn bwysig : bod cyfle i unrhyw un sydd â phroblemau gweld i fwynhau llyfrau , hen a newydd, drwy wrando ar fersiynnau sain ohonyn nhw.

Cyn mynd, cofiwch bod cân hyfryd Tecwyn Ifan, “Golau i’r Nos”  yn dal ar gael am £2 . Anrheg fach hyfryd i’w rhoi mewn hosan o dan y goeden llawn tinsel a’r goleuadau.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Comments are closed.