Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

 Mae na rai sydd yn byw mewn tywyllwch parhaol – yn methu gweld geiriau ar bapur . Credwn bod Llyfrau Llafar Cymru yn cynnig rhywfaint o oleuni a llygedyn o obaith i’r bobol hynny â nam ar eu golwg drwy baratoi llyfrau sain iddynt. 

Felly, gweithred symbolaidd fydd cynnau cannwyll i gefnogi’n helusen wrth eich bod yn trefnu digwyddiad ar benwythnos  21-23 Hydref, 2016 i godi arian at Llyfrau Llafar Cymru. 

Gall fod yn noson goffi, swper neu gyngerdd hyd yn oed,gyda bod y gannwyll yn cael ei chynnau ar ddechre’r digwyddiad. 

Beth amdani? Gall Penwythnos Cynnau Cannwyll wneud byd o wahaniaeth i ni , Llyfrau Llafar Cymru, ac yn bwysicach fyth, i’r bobl hynny, dros 450 drwy Gymru gyfan, sydd yn dibynnu arnom ni i baratoi llyfrau sain, am ddim, i lenwi bwlch yn eu bywydau. 

Os hoffech restr o syniadau, neu unrhyw wybodaeth am y penwythnos , cysylltwch a ni ar 01267 238225 neu llyfraullafarcymru@carmarthentown.com  neu wrth gwrs ewch at ein  gwefan- llyfraullafarcymru.org  

Gyda diolch 

 

Rhian Evans a Sulwyn Thomas,  Llyfrau Llafar Cymru

 

 

 

Comments are closed.