Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

DATGANIAD I’R WASG A’R CYFRYNGAU

DATGANIAD I’R WASG A’R CYFRYNGAU

 Mae Llyfrau LLafar Cymru yn gobeithio y bydd cannoedd o bobl drwy Gymru yn cynnau cannwyll cyn dechrau cyfarfodydd i godi arian i’r elusen. 

Cynhelir Penwythnos y Gannwyll rhwng Hydref 21 – 23, 2016. 

“Gwell cynnau cannwyll na melltithio’r tywyllwch” yw’r dywediad cyfarwydd,”meddai Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. “Rydym yn hoffi meddwl ein bod yn goleuo peth o’r tywyllwch i’r 450 a rhagor o bobl ddall a rhannol ddall sy’n derbyn llyfrau sain oddi wrthym.  Mae’r syniad yn un syml – cynnal un gweithgaredd yn ystod y penwythnos i’n cefnogi yn ariannol a sicrhau dyfodol ein gwasanaeth. Bydd cynnau cannwyll yn weithred symbolaidd gan roi arwyddocad ychwanegol i’r achlysur.  Gwasanaeth gwirfoddol yw Llyfrau Llafar Cymru.  Rydym yn dibynnu ar gyfraniadau a grantiau i barhau â’r gwaith. Rydym yn teimlo bod cynnal penwythnos yn rhoi cyfle i bobl i gefnogi mewn ffyrdd ymarferol -  boed yn fore coffi, yn noson gaws a gwin,yn yrfa chwist, yn daith gerdded neu drefnu casgliad ar y bore Sul.   Mae’r posibiliadau yn enfawr.   Rydym yn ymwybodol bod llawer o gymunedau yn ymwneud â chodi arian i’n heisteddfodau cenedlaethol a’r Sioe Fawr. Wel, beth am gynnal digwyddiad a rhannu’r elw? 

Mae mwy o syniadau ar ein gwefan – llyfraullafarcymru@carmarthentown.org 

Pan fyddwn yn cael y cyfle i gyfarfod a rhai sydd yn derbyn ein gwasanaeth, byddwn yn sylweddoli gymaint y mae yn ei olygu iddyn nhw.  Mae dewis o dros 2000 o “lyfrau” ar gael ar CD neu ar ffurf ddigidol, ac y mae’r nifer yn chwyddo bob blwyddyn wrth ein bod yn recordio rhwng 30 a 40 o lyfrau newydd, Cymraeg yn bennaf, ond teitlau yn Saesneg hefyd gan awduron o Gymru.  Rydym yn cyflogi dau berson rhan amser a llu o wirfoddolwyr i redeg y gwasanaeth o un flwyddyn i’r llall. 

Am dair blynedd roedd grant hael y Loteri Genedlaethol wedi’n cynnal ni, ond, daeth hynny i ben ddiwedd 2015.  Felly rydym yn awr yn gorfod sefyll ar ein traed ein hunain.Heb os, byddai ymateb da i Benwythnos y Gannwyll yn sicrhau bod y gwasanaeth ar dir ariannol diogel, ac ar gael i rai na all weld y gair mewn print, ond yn ei fwynhau ar lafar,” ychwanegodd Mr Thomas. 

Dechreuodd Llyfrau Llafar Cymru fel “Cynllun Casetiau Cymraeg” gan Rhian Evans o Gaerfyrddin yn 1979.   Roedd ei golwg yn dechrau pallu a chai drafferth i ddarllen ei hoff lyfrau. 

“Roedd digon o lyfrau Saesneg ar gael ar dâp, ond fawr ddim yn Gymraeg,”meddai Rhian “Felly es ati i recordio ambell i lyfr yn y tŷ ac mewn dim o dro, dyma recordio mwy a mwy a ffurfio gwasanaeth go iawn.  Rwyn hynod o falch bod y gwasanaeth wedi tyfu i gwmpasu Cymru gyfan a bod dros 450 yn derbyn llyfrau sain yn rheolaidd o Dŷ Llafar, Caerfyrddin.  O gefnogi’r fenter yma, gall y dyfodol fod yn sicrach, a phobl fel fi, yn medru mwynhau y gorau sy’n dod o’r gweisg yng Nghymru”. 

Am fwy o fanyliomn cysylltwch â Linda Williams – 01267238225 neu Sulwyn Thomas – 01267235385

 

 

 

 

 

 

 

Comments are closed.