Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

PENWYTHNOS Y GANNWYLL

Gwell cyfaddef ar y dechrau fel hyn i mi fod yn hir cyn danfon gair fel hyn.  Ond mae ‘na reswm.  Dywedwyd ar ddechrau ymgyrch Penwythnos y Gannwyll y gallai gymryd hyd at chwe mis cyn y byddem yn medru asesu llwyddiant ariannol yr ymarferiad.

 

Gwir oedd y gair. Hyd yn oed y funud hon ,disgwylir rai cyfraniadau ychwanegol.  Serch hynny , wrth i ni groesi’r ffigwr teilwng o £30,000, teimlaf bod angen dweud gair o ddiolch i bawb a drefnodd ryw weithgaredd neu gilydd i hybu’r gronfa a thynnu sylw yr un pryd at ein gwasanaeth.

 

Fel y gŵyr y selogion i’r cyfryngau cymdeithasol a’r wasg hefyd, i ddwsenni drefnu digwyddiadau. Cynhaliwyd oedfaon ym mhob rhan o Gymru gan ddilyn gwasanaeth arbennig a luniwyd gan y Parchedig Beti-Wyn James a swynwyd cynulleidfaoedd hefyd gan gân deimladwy Tecwyn Ifan – “Golau i’r Nos”.  Rydym yn ddyledus i’r ddau am eu mewnbwn.

 

Diolch hefyd i’r llu cyfeillion a mudiadau welodd yn dda i godi arian i ni. Bu’r ymarferiad yn ffordd dda o godi proffil a thynnu sylw at yr hyn sydd ar gael ar gyfer oobl sy’n cael trafferth i ddarllen print.  Bydd yr angen yn parhau.  Ein tasg nesaf yw darganfod  ffyrdd newydd o godi arian i sicrhau dyfodol hir-dymor i’r gwasanaeth pwysig hwn.

 

Un syniad sydd ar waith yw cynllunio sut y gall plant a phobl ifenc fod yn rhan o’n hymgyrch.  Ymatebodd nifer o ysgolion yn gadarnhaol y llynedd, ond credwn bod mwy y gellir ei wneud.

 

Amser a ddengys.  Mae’r gwaith bob dydd yn mynd rhagddo gyda  llyfrau yn cael eu recordio a hen gasetiau yn cael eu digideiddio.  Mae ein “llyfrgell” yn ehangu o wythnos i wythnos.  Cysylltwch â ni am fanylion ac awygrymiadau.  Mwynhewch yr arlwy a Phasg hapus i bawb.

 

ST

Comments are closed.