Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS TACHWEDD 2013

Daeth newyddion da iawn i ni drwy law Jeff Thomas, Llywydd Clwb Pêl Droed, Caerfyrddin. Llyfrau Llafar Cymru oedd un o’r ddwy elusen a ddewiswyd gan y clwb y llynedd. Yn ystod y tymor bu aelodau yn casglu arian yn ystod gemau, bu nifer o’r ffyddloniaid ar daith gerdded, a threfnwyd dwy noson arbennig, Talwrn y Beirdd a noson yng nghwmni Dafydd Hywel, Sue Roderick a Dewi “Pws” Morris. Canlyniad yr holl weithgaredd oedd cyflwyno siec o £1,200 i Llyfrau Llafar Cymru. Swm anrhydeddus iawn ac rydym fel gwasanaeth yn ddiolchgar i bawb a fu ynghlwm â’r holl drefnu. Cyn cyfarfod diwethaf o Llyfrau Llafar Cymru cyflwynodd Jeff y siec i ni yn swyddogol.

Comments are closed.