Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS MAI 2016

I ble aeth y misoedd dwetha dwedwch?  Mae dyn wedi bod mor brysur fel na chafodd amser i ysgrifennu pwt fel hwn.  Fe ddaw’r cyfan yn glir yn yr Hydref pan fyddwn yn trefnu digwyddiadau arbennig, gan obeithio y bydd rhai ohonoch yn fodlon ein helpu.  Mwy am hynny eto.

Mae’n rhaid i fi ,yn gyntaf , longyfarch Steven Thomas a staff Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru am drefnu digwyddiad buddiol iawn ym Mhortmeirion.  Dyna’r tro cyntaf erioed i mi ymweld â’r lle godidog heb grwydro ymhellach na’r  neuadd.   Yno roedd elusennau a chwmniau gwahanol sydd yn ymwneud â’r deillion a’r rhai sydd â nam ar eu golwg.   Roedd dewis eang o offer ar gael – a ninnau yn cael y cyfle i sôn ychydig am yr hyn y gallwn ei gynnig.  Roedd yn braf adnewyddu’r bartneriaeth rhyngom â’r Gymdeithas, ac, ar yr un pryd , ennill 12 aelod newydd.

Llongyfarchiadau hefyd i’r pedwar ddaeth i’r brig yng nghystadleuath CIP – cylchgrawn Urdd Gobaith Cymru.  Y dasg oedd ysgrifennu stori ar Gŵyl Ddewi ar gyfer plant â nam ar eu golwg.  Madog Hammond oYsgol Gymraeg Treganna , Caerdydd oedd yn fuddugol, gyda disgybl arall o’r un ysgol, Cristyn Rhydderch Davies yn ail.  Roedd dau o Geredigion yn gyd-radd drydydd – Megan Biddulph o Ysgol Llanddewi Brefi a Dylan James Williams o Ysgol Gymraeg Aberystwyth.   Roedd 48 wedi cystadlu.  Diolch i’r ysgolion am ddangos diddordeb,ac i Wasg Gomer a’r Urdd am wobrau gwych.

Diolch hefyd i’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, cadeirydd Cyngor Sir Gar, am ddewis LLyfrau Llafar Cymru fel un o ddwy elusen i elwa yn ystod ei dymor fel cadeirydd.  Fe fu Peter, a’i wraig, Meinir, yn hynod o brysur yn trefnu digwyddiadau a chodi swm anferth. Mae’n debyg y byddwn yn  elwa o rai miloedd a byddwn yn ddyledus am byth i’r ddau.

Dau ddigwyddiad pwysig yn ystod y misoedd nesa yw ein taith i Sir Benfro ar 28 Mehefin gan orffen mewn cyngerdd gan Gôr Meibion Dinbych y Pysgod yn yr eglwys leol.  Gobeitho y bydd torf dda yno gan fod hanner elw’r noson i Llyfrau Llafar Cymru, a’r hanner arall i Gymdeithas Cŵn Tywys i’r Deillion.

Mae na alw mawr yn barod am docynnau ar gyfer cyngerdd arbennig gan Charlie Lovell Jones a’i deulu yn Neuadd Pontyberem  ar nos Sadwrn, 3 Medi. Mae nifer o fusnesau lleol wedi ein noddi gan obeithio clirio’r coste cyn y noson ei hun.  Mae Charlie yn fïolinydd hynod o dalentog, er cofiwch, mae un neu arall dawnus yn y teulu. Felly mae’n siwr o fod yn noson wefreiddiol.   Cyn bo hir fe fydd y tocynnau ar gael.  Gwnewch yn fawr o’r cyfle i glywed y bachgen ifanc – cyn ei fod yn fyd enwog!!!   Diolch bod Charlie a phawb wedi cytuno i berfformio er mwyn codi arian i Llyfrau Llafar Cymru.

Rhaid ei gadael hi fanna nawr, ond cofiwch gysylltu â ni ar 01267238225 neu drwy ebost llyfraullafarcymru@carmarthentown.com. Hwyl.

Comments are closed.