Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS IONAWR 2013

Blog y Cadeirydd

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd ac mae’r flwyddyn hon wedi dechrau ar nodyn uchel iawn i ni fel sefydliad. Ddyddiau cyn y Nadolig yn wir cawsom wybod bod ein cais am grant o’r Loteri Fawr wedi bod yn llwyddiannus. Rydym i dderbyn grant dros dair blynedd a fydd ychydig dros £142,000.

Bydd hynny yn sicrhau ein dyfodol heb os – dyfodol Linda a Phil sydd yn gweithio’n rhan amser gyda ni ym Mhensarn wrth gwrs , ond hefyd yn rhoi cyfle i ni gynllunio yn ofalus sut mae’r prosiect yn mynd i or-oesi’r dair blynedd. Gallwn baratoi a datblygu a ffurfio partneriaethau cyffrous fel y gall mwy a mwy o bobol elwa o’r cyfleusterau sydd gyda ni, a’r hyn a gynigir gennym yn barod.

Dyna paham rwy’n edrych mlaen i gynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Strôc Cymru a Dyslecsia Cymru ac RNIB Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn hefyd yn rhoi mwy o gig ar asgwrn o syniad sydd gyda ni i gynnal sioe deithiol. Eisoes rydym wedi cael trafodaeth fuddiol dros ben gyda’n ffrindiau yn y Cyngor Llyfrau Cymraeg ar sut mae symud ymlaen â’r syniad hwnnw.

Ond wrth gwrs yn awr rydym am ganu clodydd swyddogion doeth y Loteri Fawr a welodd yn dda i gefnogi ein hymdrechion dros y rhai sydd yn cael traferth i ddarllen print ac yn dibynnu ar ein gwasanaeth am foddion diwylliannol yn Gymraeg a Saesneg. Diolch iddyn nhw am gydnabod yr angen a gosod sialens i ni ehangu’r gwasanaeth ymhellach i nifer fwy o wrandawyr sydd yn elwa ar hyn o bryd. Mae gennym dair blynedd i dreblu nifer y “cwsmeriaid” ac fe allwch chi, ddarllenwyr y geiriau hyn, ein cynorthwyo drwy roi gwybod i ni os y gwyddoch am unrhyw un a alle ymuno â’r 440 sydd yn derbyn “llyfrau” yn gyson. Hwyl am y tro.

Chairman’s Blog

First of all a Happy New Year to you all and we could not have hoped for a better beginning to the new year. A few days before Christmas we heard that our application for Lottery funding had been successful. Our future for the next three years is secure with a grant totaling just over £142,000. It means that Linda and Phil need not worry about whether their wages will be paid. It also means that we have three years to develop and build for the long term rather than worrying about our financial situation week in week out.

Of course we will never be able to sit back and think we will be forever secure.We will continue to raise money to consolidate our financial position by the end of the third year and explore new avenues. We want ensure that many more people can use our facilities and gain pleasure from the “books” we produce every week. That is why I am looking forward to a series of meetings with Stroke Wales, Dyslexia Cymru and RNIB Cymru so that we can treble the number of those who receive our offerings in the next three years. It
won’t be easy but we must try to reach more people as we know there are so many In Wales who could avail themselves of our services. If you know of anyone who falls into that category, please get in touch.

Now, it’s time to give three cheers to the Big Lottery managers who thought fit to support us and put their faith in our scheme. They have recognised the need and provided us with a worthwhile challenge to develop and expand, and I hope, realised that we are totally committed to what we are doing at Talking Books Wales.

Comments are closed.