Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cymwynas anferthol. Dyma’r swm uchaf i ni ei dderbyn oddi wrth unrhyw gymdeithas neu gapel mewn ymateb i’n hapêl.
Yn y llun y mae aelodau o’r tri chapel, a Ryan a William, dau o’r aelodau ifancaf.
|
||
BETHLEHEM, CADLE, FFORESTFACHAeth dirprwyaeth o’r Llyfrau Llafar – Linda, Elsbeth, Margaret, Rhian a Sulwyn draw i gapel Bethlehem, Fforestfach nos Wener, yr 8fed o Fawrth i godi siec anferth o £2000. Dewisodd capeli Bethlehem.Cadle, Ebeneser a Brynteg, Gorseinon, dan ofal y gweinidog, y Parchedig Brenig Davies, Llyfrau Llafar Cymru fel eu helusen am y flwyddyn ddiwethaf, a dyna paham yr oedd gwahoddiad i ni fynd draw i’w noson o Gawl a Chân.
Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cymwynas anferthol. Dyma’r swm uchaf i ni ei dderbyn oddi wrth unrhyw gymdeithas neu gapel mewn ymateb i’n hapêl. Yn y llun y mae aelodau o’r tri chapel, a Ryan a William, dau o’r aelodau ifancaf. Comments are closed. |
||
|