Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

BLOG Y CADEIRYDD MIS AWST 2013

Bu’n haf creulon i Llyfrau Llafar Cymru . Bu farw un o’n cefnogwyr pennaf yn Arwyn Davies. Roedd yn un o’n darllenwyr selocaf, yn weithiwr diwyd tu ôl i’r llenni er mwyn hyrwyddo gwaith y gwasanaeth. Drwy ei brofiad fel clerc cyngor cymuned, fe a wnaeth gysylltu â dwsenni o gynghorau bro a thref er mwyn chwyddo ein cronfa apêl ac ysgrifennodd at gapeli o bob enwad ac egwlysi drwy Gymru gyfan yn annog hwy i gyfrannu. Credai’n gryf yn yr hyn yr oeddem am ei gyflawni, ac rydym yn gweld ei golli, fel y bydd nifer o fudiadau eraill yn y cylch.

Ond gwn mai fe fydde’r cynta i ddweud, “Mae’n rhaid symud mlan bois” a dyna fydd yn rhaid i ni ei wneud yn ddi-ymdroi. Fe fydd y anodd llenwi ei esgidiau ac efalle y bydd yn rhaid wrth gymorth fwy nag un i wneud hynny, a dyna pam rydw i am roi gwahoddiad agored i unrhyw un a fydde am ein helpu gyda’r gwaith pwysig hwn i gysylltu â ni gynted â phosib.

Roedd Arwyn, fel pob un ohonom, yn edrych ymlaen at ein taith drwy Gymru i hyrwyddo Llyfrau Llafar Cymru – taith a fydd yn cychwyn ar yr 16 Medi yn Siop Lyfrau Lewis, yn Llandudno, ymlaen wedyn i Palas Print yng Nghaernarfon, Siop Inc, Aberystwyth ar y dydd Mercher, Siop Sian, Crymych ddydd Iau gan orffen yn Siop Tŷ Tawe, Abertawe ar y dydd Gwener. Wythnos lawn o genhadu a phob diwrnod yn dechrau am ddeg y bore. Cawn gyfle, gobeithio, i gwrdd â gweithwyr cymdeithasol lleol, optegwyr, meddygon, llyfrgellwyr, deillion ac eraill sydd am wybod mwy amdanom. Croeso cynnes i chi ddod atom yn y manne a nodwyd. Bob dydd fe fydd awdur lleol (a’i waith eisoes ar gael ar CD neu gaset drwyddo ni) yn dod atom i siarad â disgyblion chweched dosbarth ysgolion y cylch. Diolch i berchnogion y siopau am ein cael ni a’r gobaith yw y bydd yr ymarferiad o les i bawb yn y pendraw.

Gyda llaw, ar y dydd Mercher, yn Aberystwyth, byddwn yn cyhoeddi cynllun unigryw a chyffrous mewn partneriaeth â mudiad Merched y Wawr- cam ymarferol arbennig i ganfod mwy a mwy o “gwsmeriaid” i’n gwasanaeth. Mwy am hynny eto.

Haf trist yn gorffen mewn gobaith o bosib cyn dechrau’r Hydref.

Comments are closed.