Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Y LANSIAD

Cafodd Llyfrau Llafar Cymru ei lawnsio mewn cyfarfod arbennig yn y
Cynulliad  gan y Gweindog  a Gwasanaeth Cymdeithasol, Lesley Griffiths.

Dywedodd y Gweinidog bod y gwasanaeth yn un pwysig ac yn werth ei
achub. Dyna paham i Lywodraeth y Cynulliad roi grant o £35,000 i dim newydd yng
Nghaerfyrddin i barhau â’r gwaith a ddechreuwyd ym 1979 dan enw Cynllun Casetiau Cymraeg.

“ Bu’r digwyddiad yn un llwydiannus iawn,” meddai Cadeirydd  y gwasanaeth newydd, Sulwyn Thomas “ Roedd
hi’n galonogol iawn bod cynifer o aelodau’r Cynulliad wedi dod atom a dangos eu
cefnogaeth. Cawsom gynghorion buddiol ar gyfer y dyfodol a chyfarfod rhai o’r
gwrandawyr  a oedd mor werthfawrogol o’r
gwasanaeth. Rwy’n meddwl i hynny greu argraff ar y Gweinidog ac aelodau o’r
Cynulliad.”

Rhian Evans, sylfaenydd y cynllun gwreiddiol ac is gadeirydd Llyfrau
Llafar Cymru oedd yr un mwyaf balch. “ Dyma ddiwrnod mawr yn fy hanes i yn
bersonol i weld y cynllun yn parhau fel hyn”, meddai “ Fel un o Gaerfyrddin,
rydym yn gyfarwydd â’r Hen Dderwen. Wel dyma ni heddi wedi gweld y fesen a blannwyd nol
ym 1979 wedi tyfu yn dderwen gref. Gobeithio y bydd yn sefyll am flynyddoedd
hir i ddod.”