Yn ystod yr wythnosau dwethaf buom yn recordio, am y tro cyntaf ers peth amser, ar leoliad.
Bu Sulwyn Thomas yn ymweld â’r 13 awdur sydd wedi cyfrannu i gyfrol newydd , “Taid/Tad-cu” , a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd. Mae’r gyfrol yn dilyn llwyddiant mawr yr un gyfatebol gan awuduron yn cofio am eu neiniau neu famgus.
Ymhlith yr atgofion y tro hwn y mae rhai Dafydd Iwan, Gwyn Llewelyn, y Prif-fardd Rhys Iowerth, Aneurin Karadog a Huw Chiswell.
Dyma’r cyfranwyr a fu o flaen y meic.
Y mae’r “gyfrol” yn awr ar gael ar CD neu gaset o Ganolfan Pensarn (01267 – 238225)