Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Newyddion

Fe wneir pob ymdrech i gyflwyno’r newyddion diweddara am y gwasanaeth i chi. Yn wir mae dyfodol yr adnodd hwn wedi bod yn destun mwy nag un drafodaeth yn ddiweddar wrth i ni chwilio am nawdd pellach a lawnsio ein Hapêl.

Lawnsiwyd yr Apêl yn Nachwedd 2011 ac fe fu’r ymateb yn galonogol dros ben. Ers i ni gymryd gofal o’r gwasanaeth, a chyn i ni gael ein lawnsiad swyddogol, rydym wedi croesi’r £10,000. Daeth £2000 wedi i June Williams a Mary Jones gynnal garddwest un Sadwrn ac i aelodau cor Tonic gynnal noson, “Pei a Potsh”.

Cawsom dipyn o sylw ar Radio Cymru, bwletin newyddion S4C ac yn y Wasg wedi i ni ryddhau datganiad rai wythnosau nôl. Bu’r cadeirydd yn westai ar raglen Wedi7.

Yn ystod yr wythnosau nesa byddwn yn recordio, am y tro cyntaf, ers peth amser, ar leoliad. Bydd Sulwyn Thomas yn ymweld â’r 13 awdur sydd wedi cyfrannu i gyfrol newydd Taid/Tad-cu a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd. Mae’r gyfrol yn dilyn llwyddiant mawr yr un gyfatebol gan awuduron yn cofio am eu neiniau neu famgus. Ymhlith yr atgofion y tro hwn fydd rhai Dafydd Iwan a Gwyn Llewelyn.