Cynhaliwyd noson fywiog, hwyliog yng Nghlwb Pêl Droed Caerfyrddin i godi arian i’w helusen ddewisieidig am y tymor, sef Llyfrau Llafar Cymru.
Y diddanwyr oedd Dafydd Hywel, Sue Roderick a Dewi “Pws” Morris gyda Gos yn cyfeilio ar yr allweddellau. Roedd pawb yn eu dyblau yn chwerthin ar y jôcs, yn mwynhau’r dewis o farddoniaeth a llenyddiaeth ac yn morio canu rhai o ffefrynnau Dewi Pws.
Diolch unwaith eto i swyddogion y clwb am drefnu noson gampus a chofiadwy.