Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

HYDREF 2016

Blog Hydref 2016

Dyma ysgrifennu hyn  oriau wedi i Benwythnos y Gannwyll ddod i ben yn “swydddogol “.  Cofiwch nad oes raid i chi gadw at y tridiau yna yn Hydref.  Mae cynnau cannwyll ar ddechrau unrhyw ddigwyddiad i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru yn ymestyn tan y flwyddyn newydd, efalllai y tu hwnt i hynny hefyd.  Mewn geiriau eraill, mae’n gwbwl ben-agored. .

Mae’n anodd credu bod llawer mwy i ddod gymaint y bu’r ymateb yn ystod y dyddiau diwethaf.  Cynhaliwyd boreuau coffi, teithiau cerdded, gwasanaethau diolchgarwch ac , wrth gwrs, defnyddiwyd, yn batrwm,  y gwasanaeth arbennig a baratowyd gan y Parchedig Beti Wyn James, Caerfyrddin.  Rydym yn ddiolchgar iddi am lunio gwasanaeth cofiadwy.

Yn rhan o’r gwasanaeth hwnnw roedd modd ychwanegu cân hyfryd Tecwyn Ifan- “Golau i’r Nos”.  Mae Tecwyn , Euros ei frawd, a John Griffiths, wedi recordio’r gân ar gais Llyfrau Llafar Cymru. Fe’i clywyd yn fynych ar Radio Cymru yn ystod y dyddiau yn arwain at y Penwythnos, heb anghofio perfformiad arbennig ar “Heno”.  Diolch i Tecs am berl arall. Rydym wedi cael caniatad perchennog y gân i wasgu copïau ohoni ac y mae modd i chi brynu cd am £2. Ffoniwch Tŷ Llafar – 01267238225.  Os ydych am i ni bostio’r cd, yna fe fydd cost ychwanegol o 50c.

Rwy am ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r Penwythnos mewn unrhyw ffordd. Hawdd fyddai pechu drwy enwi rhai. Gwell peidio gan y byddwn yn ceisio cydnabod bob cyfraniad yn uniongyrchol.

Gwyddom am drefniadau pellach rhwng nawr a’r Nadolig. Bydd yn rhaid aros tan y flwyddyn newydd i asesu llwyddiant ein hymarferiad diweddar. Ar hyn o bryd mae’n edrych yn addawol iawn.

Mae pob ceiniog yn help i ni barhau â’r gwaith a sicrhau bod llyfrau sain ar gael yn Gymraeg a Saesneg o Dŷ Llafar, Caerfyrddin am flynyddoedd i ddod. Gwell cynnau cannwyll na melltithio’r tywyllwch.

Comments are closed.