Dyma ni nôl yng Nghaerfyrddin wedi taith lwyddiannus arall. Diolch i bawb am eu croeso a’u parodrwydd i gymryd rhan. Roedd y daith eleni yn wahanol am ein bod yn gofyn i blant ysgolion cynradd ac uwchradd i ddod draw atom a mentro darllen darnau o’u hoff lyfrau. Roedd aelodau o’n tîm ni yn rhyfeddu pa mor dda roedd y plant yn darllen . Felly dim esgus dros y cam nesa- sef eu bod yn dewis llyfr i’w ddarllen fel prosiect yn yr ysgol yn ystod y misoedd nesa. Cawn weld.
Dechreuodd y daith yn Siop Cyfoes yn Rhydaman. Plantos ysgol Gymraeg Rhydaman oedd y cyntaf i wynebu’r meic. Yn ystod y recordio pwy ddaeth draw hefyd oedd Dafydd Morgan, gohebydd Post Cyntaf, Radio Cymru a diolch iddo fe am eitem gampus y bore wedyn. Yn y prynhawn , disgyblion Ysgol Gyfun Dyffryn Aman oedd hi, ond y tro hwn cawsom y pleser o wrando ar awdur prysur iawn. Alun Gibbard yn disgrifio sut y mae’r broses ysgrifennu yn digwydd. Prynhawn diddorol dros ben.
Plantos Ysgol Gymraeg Evan James, Pontypridd ac Ysgol Gymraeg y Castell, Caerffili lanwodd yr ail ddiwrnod yn Siop Y Bont, Pontypridd. Y plant wrth eu bodde yn darllen , ac roedd hi’n galonogol clywed plant nad oedd yn dod o gartrefi uniaith Gymraeg yn cyflwyno eu gwaith mor raenus.
I Lambedr Pont Steffan , ac i festri hyfryd capel Bron Deifi, yr aethon ni ar y trydydd diwrnod, diolch i Bet a Goronwy Evans. Disgyblion Ysgol Bro Pedr ddaeth yno. Y plant cynradd yn y bore a’r adran uwchradd yn y prynhawn. Cafodd y rhai hŷn wledd o wrando ar Elinor Wyn Reynolds o Wasg Gomer yn trafod llyfrau a’r broses manwl o gael llyfr yn barod i fynd i’r wasg. Sesiwn ysbrydoledig.
Gellir dweud yr un peth am ddwy sesiwn yn y Bala yng nghwmni yr awdures boblogaidd a thoreithiog, Bethan Gwanas. Plant pedair ysgol gynradd yn y cylch yn gwrando yn astud arni ar ddiwedd sesiwn y bore a disgyblion Ysgol y Berwyn ar ddechrau sesiwn y prynhawn. Wow, am hwyl a dysgu yr un pryd! Shwd ryfedd taw athrawes oedd Bethan ar un adeg cyn iddi fynd i fyd darlledu a llenydda. Bu nifer o’r plant yn darllen hefyd. Does dim angen poeni na fydd darlledwyr da yn y dyfodol yng Nghymru!
A pham ddylem ni boeni. Draw yn Yr Wyddgrug ar y diwrnod olaf, yr un oedd y stori. Yn ysgol Maes Garmon. I ddechrau, ac yna wedyn ysgol Glanrafon, perfformiadau penigamp i gloi’r wythnos.
Recordiwyd dros saith deg i gyd. Rhanwyd taflenni i bob plentyn gan obeithio y bydd y disgyblion yn gofyn i’w rhieni, perthnasau, ffrindiau i ganfod unrhyw un sydd yn ddall neu â phroblemau gweld fel y gallwn ni roi gwybod i’r bobl hynny am ein gwasanaeth. Dosbarthwyd yr un taflenni i optegwyr, a meddygon ym mhob un lleoliad hefyd . Gobeithio y bydd y gwaith cenhadol hyn yn talu ar ei ganfed. Gwyddom, er enghraifft, bod 145 o blant yn unig ar lyfrau Cyngor Sir Gâr sy’n methu gweld ac y gallai llyfrau Cymraeg a Saesneg , wedi eu recordio gan blant a phobl ifenc, fod o werth mawr iddyn nhw.
Dyna’r sialens yw adnabod y plant a phobl hŷn a pharatoi ar eu cyfer. Gallwch chithe helpu hefyd yn y misoedd nesa.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd, a diolch i Linda, Phil a phawb sydd yn helpu Llyfrau Llafar Cymru am eu hymroddiad yn 2014. Mae’r un a ddechreuodd y gwasanaeth hwn , Rhian Evans , yn treulio ei Nadolig yn Awstralia wedi iddi ddathlu penblwydd arbennig! Un amod yn y gwahoddiad i’r parti mawr oedd – dim anrhegion. Yn hytrach awygrymwyd i bawb gyfrannu i’r Llyfrau Llafar neu Bapur Llafar Caerfyrddin a’r cylch. Mae ond yn iawn i chi gael gwybod bod y cyfanswm dros £4,000. Swm aruthrol. Diolch i chi am ymateb mor hael.