Mae 2015 wedi dechre’n dda i ni yn Llyfrau Llafar Cymru. Aeth tri ohonom , Rhian, Linda a minnau am dro i Llety Parc , Aberystwyth i gasglu siec o £1,000 oddi wrth Y Parchedig Nicholas Bee, Ioan Williams ac Alan Evans- swyddogion Gofalaeth Llanilar a’r cylch. Mae 12 o gapeli Presbyteraidd yn yr Ofalaeth a bob blwyddyn bydd y swyddogion yn dewis elusen. Yn ystod y flwyddyn bydd casgliadau suliau arbennig yn mynd tuag at yr elusen honno. Llyfrau Llafar Cymru oedd i elwa o gasgliadau 2014. Yn y Llun mae Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru, Sulwyn Thomas yn derbyn y siec oddi wrth Drysorydd yr Ofalaeth, Alan Evans. Diolch o galon i bawb o eglwysi Gosen, Rhydlwyd,Carmel, Bronant, Afan, Blaenplwyf,Moriah,Cynon,Rhydyfagwyr, Bethel, Tabor ac Elim am eu cyfraniadau hael.