Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

DATGANIAD I’R WASG / AR DAITH UNWAITH ETO

Llenyddiaeth plant a phobl ifenc fydd yn cael y sylw yn ystod ail daith Llyfrau Llafar Cymru eleni.
Bydd nifer o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn ymarferiad a alle olygu pentwr o lyfrau sain newydd i blant a phobl, ifenc sydd a phroblemau gweld.

Bydd disgyblion ysgolion mewn pum ardal yn cael dewis eu hoff lyfr ac fe fydd darnau yn cael eu recordio.

Fel arfer pwrpas y daith yw codi proffil ein gwasanaeth gan obeithio y down i adnabod rhai deillion, a rhai sy’n cael trafferth i ddarllen print, a chynnig y cyfoeth difyr sydd ar gael gennym, am ddim, ar gryno ddisg neu gaset.

Bydd y daith yn cychwyn yn Rhydaman ar Dachwedd 24, yn siop Cyfoes, Rhydaman pan fydd yr awdur prysur, Alun Gibbard yn cyfarfod â disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, Elinor Wyn Reynolds fydd y gwestai yn Festri Capel Fron Deifi, Llambed ar y dydd Mercher, a’r awdur toreithiog, Bethan Gwanas fydd yn ymuno a ni yng Nghanolfan Henblas yn y Balai gyfarfod disgyblion ysgolion Bro Tegid, Ffridd Llewelyn a Beuno Sant, ac Ysgol y Berwyn.

Yn Siop Y Bont , Pontypridd caiff plant ysgolion cynradd ysgol Evan James, a disgyblion Ysgol, Gymraeg Caerffili gyfle i ddangos eu doniau. Ac fe fydd yr un peth yn diigwydd yn Ysgol, Maes Garmon ac ysgol Glanrafon ar ddiwedd yr wythnos. Y Gobaith yw y bydd y plant a’r bobl ifenc yn mwynhau’r profiad a’u bod yn mynd ati i recordio llyfrau yn yr ysgol ac i ninnau eu dosbarthu we-dyn.

“Does dim angen manylu, ond mae na brinder llyfrau ar gyfer plant a phobl ifenc yn Gymraeg; mae’r broblem yn waeth i rywun sy’n methu gweld,” meddai Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru. ” Dyma gyfle i rai ysgolion ddechre ar brosiect o recordio a lleihau’r diffyg yn y ddar-pariaeth. Sialens i ni fel gwasanaeth, a sialens ymarferol i’r ysgolion . Byddwn ni yn y pendraw, yn dyblygu’r tapie ar gyfer eu dosbarthu. Cawsom gymaint o hwyl ar stondin Cyngor Sir Gâr mewn dwy sesiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda phlant yn recordio, yn gwbwl ddi-rybudd, fel y penderfynwyd roi cynnig ar wneud rhywbeth yn debyg y tro hwn.Rydym am geisio cyflyrru’r plantos i feddwl pa mor ffodus ydyn nhw o gymharu â’r rhai sydd yn methu gweld print o gwbwl. Gyda chymorth yr ysgolion fe alle ni fod â stôr o “lyfrau” sain wedi’r daith yma. Mae’r ysgolion eisoes wedi dangos diddordeb i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael a phwy yn well na phlant i adrodd straeon i blantos llai ffodus.”

Mae croeso i unrhywun sydd â diddordeb, neu yn gwybod am rywun, o bob oed, a ddyle fod yn derbyn llyfrau a defnyddiau llafar ddod draw i gael mwy o wybodaeth.

Dydd Llun Tachwedd 24 – Siop Cyfoes, Rhydaman
Dydd Mawrth, Tachwedd 25 – Siop y Bont, Pontypridd
Dydd Mercher, Tachwedd 26 – Siop y Smotyn Du/ Festri Bron Deifi , Llanbedr Pont Steffan
Dydd Iau Tachwedd 27 – Siop Awen Meirion/ Canolfan Henblas, Y Bala
Dydd Gwener. Tachwedd 28 – Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Glanrafon
Sesiwn y bore yn dechrau am10yb : Sesiwn y prynhawn am un o ‘r gloch

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Sulwyn Thomas 01267235385/077784235765

Gwasanaeth,a ddechreuwyd gan ferch a oedd yn colli ei golwg, Rhian Evans, o Gaerfyrddin yw Lly-frau Llafar Cymru. Cynllun Casetiau Cymraeg oedd yr enw gwreiddiol,yn 1979. Tyfodd y gwasan-aeth ar hyd y blynyddoedd gyda bron i ddwy fil o deitlau ar gael, yn Gymraeg a Saesneg, ar gasetiau a chryno ddisgiau. Derbyniodd y gwasanaeth grant sylweddol oddi wrth y Loteri Genedlaethol i barhau â’r gwaith a datblygu ymhellach.

Comments are closed.