Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

Rhodd er cof am Dafydd Wyn

Dyma lun o Einir Wyn o Fferm Cae Du, Abersoch yn  cyflwyno siec o £1500 i Sulwyn Thomas Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru  er cof am ei thad, Dafydd Wyn a fu farw ym mis Ebrill wedi cystudd hir.  Roedd Dafydd Wyn yn un o gefnogwyr selog y gwasanaeth ac wedi derbyn llyfrau sain ers blynyddoedd maith.  Diolchwyd i’r teulu  a’r holl gyfranwyr  hael. Wedi’r cyflwyniad ymwelodd Einir â  Thy Llafar  yng Nghaerfyrddin.  Yn y llun y mae sylfaenydd y gwasanaeth, Rhian Evans  a’r ddau aelod o’r staff, Linda Williams a Phil James.  Fel arwydd bychan o werthfawrogiad  cafodd Einir  gopi o lyfr Rhian “Siarad Cyfrolau” yn anrheg i gofio ei hymweliad â  Chaerfyrddin.

Comments are closed.