
Blaen (Chwith i'r dde): Rhian Evans, Linda Williams. Cefn (Chwith i'r dde): Philip James, Sulwyn Thomas
Ar y funud y mae dau aelod a staff yn gweithio rhan amser – Linda Williams a Phil James.
Dechreuodd Linda fel cynorthwydd i Rhian 20 mlynedd yn ôl, ac wedi i Rhian ymddeol, cydiodd Linda yn yr awennau fel trefnydd i oruchwylio y recordio a’r gwaith gweinyddol.
Phil James yw’r un sydd yn didoli’r post, dyblygu’r tapiau a CD’s a sicrhau bod cyflenwad da o “lyfrau” ar gael i unrhywun i’w benthyg am ddim. Danfonir y tapiau a’r CD’s allan am ddim drwy’r Post Brenhinol.
Bob wythnos daw nifer o wirfoddolwyr i helpu gyda’r didoli a’r dosbarthu, tra bo eraill yn treulio oriau yn y stiwdio gyda Linda yn recordio’r llyfrau. Dewisir y llyfrau hynny gan Linda a’r tim heb anghofio awygrymiadau gan ddarllenwyr a gwrandawyr.
Cadeirydd y grwp newydd yw Sulwyn Thomas, darlledwr wedi ymddeol a sylfaenydd Radio Glangwili.
Yr is-gadeirydd yw Rhian Evans.
Mae cyfoeth o brofiad gan aelodau eraill y Bwrdd.