Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

NOSON WYCH

Pedwar tim o feirdd lleol, dau Feuryn o fri a chynulleidfa ddeallus a niferus. Dyna risait am noson i’w chofio yng nghlwb Pêl Droed , Caerfyrddin ar nos Wener , 1 Chwefror. Roedd elw’r noson – a noson arall ymhen pythefnos – i godi arian i elusen ddewisiedig y clwb am eleni, Llyfrau Llafar Cymru.

Diolch i Jeff Thomas a swyddogion y clwb am eu cymwynas, ac i Peter Hughes Griffiths am drefnu’r noson.

Y ddau Feuryn oedd neb llai na Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones – dau o brifeirdd amlyca Cymru a chafwyd hwyl arbennig wrth iddynt dafoli gweithiau’r pedwar tim – tri o Ysgol Farddol Caerfyrddin ac un o Eglwys y Priordy.

Tim y Priordy wnaeth ennill yr ornest y tro hwn a llongyfarchiadau mawr iddynt am ddod i’r brig.

Cystadleuaeth yr Englyn sy’n cloi’rTalwrn fel arfer, a’r testun oedd – “Llyfrau LLafar”. Cafodd dau gynnig ddeg marc.

Cael orig rhwng y cloriau, a sŵn llais
yn llên y delweddau:
gwaddol siarad cyfrolau
yw’r dweud sy’n angori dau. (Siw Jones)

Dyhead mintai radlon – yw rhannu
Yr heniaith o’r galon,
A rhoi’r haul wna geiriau hon
Yn nhywyllwch cyfeillion. (Meirion Jones)

Comments are closed.