Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

LANSIAD YN Y BAE

Lesley Griffiths

Rhian Evans

Cafodd Llyfrau Llafar Cymru ei lawnsio mewn cyfarfod arbennig yn y Cynulliad gan y Gweindog a Gwasanaeth Cymdeithasol, Lesley Griffiths. Dywedodd y Gweinidog bod y gwasanaeth yn un pwysig ac yn werth ei achub. Dyna paham i Lywodraeth y Cynulliad roi grant o £35,000 i dim newydd yng Nghaerfyrddin i barhau â’r gwaith a ddechreuwyd ym 1979 dan enw Cynllun Casetiau Cymraeg.

“Bu’r digwyddiad yn un llwydiannus iawn,” meddai Cadeirydd  y gwasanaeth newydd, Sulwyn Thomas. “Roedd hi’n

galonogol iawn bod cynifer o aelodau’r Cynulliad wedi dod atom a dangos eu cefnogaeth.

Elin Jones

Cawsom gynghorion buddiol ar gyfer y dyfodol a chyfarfod rhai o’r gwrandawyr  a oedd mor werthfawrogol o’r gwasanaeth. Rwy’n meddwl i hynny greu argraff ar y Gweinidog ac aelodau o’r Cynulliad.”

Rhian Evans, sylfaenydd y cynllun gwreiddiol ac is gadeirydd Llyfrau Llafar Cymru oedd yr un mwyaf balch. “Dyma ddiwrnod mawr yn fy hanes i yn bersonol i weld y cynllun yn parhau fel hyn. Fel un o Gaerfyrddin, rydym yn gyfarwydd â’r Hen Dderwen. Wel dyma ni heddi wedi gweld y fesen a blannwyd nol ym 1979 wedi tyfu yn dderwen gref. Gobeithio y bydd yn sefyll am flynyddoedd hir i ddod.”

Comments are closed.