Ydych chi wedi bod yn crafu’ch pen am syniad i godi arian ar gyfer Penwythnos y Gannwyll? Wel, dyma un syniad, syml, di-drafferth a allai godi swm bach derbyniol mewn swyddfa, ysgol, ffatri , tafarn neu ganolfan leol.
Prynwch ddwy gannwyll debyg. Gartref, cynnwch un gannwyll gan ei hamseru. Dwedwch ei bod yn llosgi am bedair awr. Llosgwch yr ail gannwyll a’i diffodd hanner ffordd neu dri chwarter ffordd cyn iddi ddod i ddiwedd ei rhawd.
Y sialens i bawb fydd dyfalu, o ail gynnau’r gannwyll honno, faint gymrith hi cyn i honno ddiffodd. Fe fydd angen amseru’r ymarferiad; mae digon hawdd defnyddio eich ffôn symudol i gofnodi pob munud, awr, ac eiliad o fywyd yr hen gannwyll.
Codwch £1 neu 50c y tro, a gwobr i bwy bynnag fydd agosaf i’r amser ar y wats pan ddiffydd y fflam .
Bydd yn rhaid nodi pob cynnig wrth gwrs, enw a rhif ffôn a’r amser.
Siawns y byddwch wedi codi swm bach da erbyn diwedd y sesiwn. Bydd gyda chi un enillydd bodlon a Llyfrau Llafar Cymru ar ei ennill.
Beth amdani? Gallai fod yn fwy o sbort na dyfalu nifer y pys mewn pot jam. Mae’n fwy testunol ta beth.