Fyddwch chi fyth yn gwybod be ddaw o ryw gyfarfyddiad sydyn ar faes sioe neu eisteddfod. Yn aml iawn, cewch addewid, nas gwireddir, wrth iddo fynd yn angof o fewn oriau.
Dyna hyfryd felly oedd cyfarfod gŵr bonheddig o’r enw, Alun Owen Davies ar faes y Sioe yn Llanelwedd eleni. Prynodd docynne raffl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol cyn mynd ymlaen i ddatgellu ei fod yn byw yn Lloeger, ac fel llawer i un alltud yn cefnogi mudiadau Cymraeg a Chymreig.
Beth, meddwn i, am gyfraniad bach i Llyfrau Llafar Cymru, gwasanaeth cenedlaethol er 1979?
O siarad ymhellach daeth hi’n amlwg ei fod yn gefnder i un o selogion Llyfrau Llafar a Phapur Llafar Caerfyrddin, sef Joan Thomas.
Addawodd feddwl am y peth gan adael ei gyfeiriad e bost.
Wrth gwrs, nid dyna ddiwedd y stori. Ysgrifennais bwt ato i’w atgoffa ac o fewn dyddiau dyma siec yn cyrraedd Pensarn – £500. Dyna i chi gymwynaswr a gadwodd at ei air!
Mae Alun yn dipyn o ffilanthropydd. Bachgen o ardal Cwmtydu yw e. Roedd ei dad yn gapten llong, ac wedi i’w fam farw pan oedd Alun yn 13 oed, fe’i danfonwyd i Goleg Llanymddyfri – coleg sydd hefyd wedi elwa o’i haelioni.
Mewn nodyn ataf daeth yn amlwg bod dau aelod o’r teulu wedi bod yn hynod o falch o wasanaeth Llyfrau Llafar ac yn dotio bod Joan yn darllen Y Gambo bob mis.
Person diymhongar yw Alun . Dywed fel hyn yn ei e-bost, “Fe wnes i yn eithaf da yn fy ngwaith ac o’m llwyddiant cefais fy ngwneud yn MBE yn 2002. Mae’n bleser gennyf yn awr fod yn medru gwneud gwaith philanthropig gan dalu yn ôl i’r pethau hynny a garaf ac sydd wedi rhoi pleser i fi mewn bywyd”
Pe tae mwy fel Alun o gwmpas, byddai’n gofidiau yn llawer llai. Diolch iddo am ei gymwynas.