Mae dwy noson wedi eu trefnu gan Glwb Pel Droed Caerfyrddin i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru.
“Talwrn Llyfrau Llafar” yw’r noson gyntaf – Nos Wener, 1 Chwefror 2013 am 7,30 yr hwyr yn yr Ystafell Gymdeithasol. Mynediad yn £5.
Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood fydd y ddau feuryn a bydd timoedd o feirdd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Noson hwyliog fydd hon gydag eitemau amrywiol rhwng y rowndiau. Cysylttwch â Peter Hughes Griffiths (01267 232240) am docynnau.
Noson hwyliog arall wedyn as nos Wener, 15 Chwefror am 7,30 yr hwyr eto yn y Clwb Pêl Droed – “ Noson Joio” yng nghwmni Dafydd Hywel, Sue Roderick a Dewi “Pws” Morris. Adloniant a cherddoriaeth fyw o safon uchel. Pris y tocynnau yn £8. Cysylltwch â Gareth O Jones (0781 4262656) neu Jeff Thomas ( 07813697774)
Dwy noson dda felly, a diolch i swyddogion Clwb Pêl Droed, Caerfyrddin am ddewis LLyfrau Llafar Cymru fel Elusen y Flwyddyn .