|
Pedwar tim o feirdd lleol, dau Feuryn o fri a chynulleidfa ddeallus a niferus. Dyna risait am noson i’w chofio yng nghlwb Pêl Droed , Caerfyrddin ar nos Wener , 1 Chwefror. Roedd elw’r noson – a noson arall ymhen pythefnos – i godi arian i elusen ddewisiedig y clwb am eleni, Llyfrau Llafar Cymru. [...]
Cafodd dau o swyddogion Llyfrau Llafar Cymru groeso mawr gan aelodau Cymdeithas Ceredigion yng Ngwesty’r Emlyn Tan-y-groes. Mrs Mair Davies, Y Llywydd, gyflwynodd yr is gadeirydd, Rhian Evans a’r cadeirydd, Sulwyn Thomas. Yn y llun, a dynnwyd gan Sion Jones, mae Ms Joan Thomas, sydd yn darllen y papur bro lleol, Y Gambo, ar gyfer [...]
Mae dwy noson wedi eu trefnu gan Glwb Pel Droed Caerfyrddin i godi arian i Llyfrau Llafar Cymru.
“Talwrn Llyfrau Llafar” yw’r noson gyntaf – Nos Wener, 1 Chwefror 2013 am 7,30 yr hwyr yn yr Ystafell Gymdeithasol. Mynediad yn £5.
Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood fydd y ddau feuryn a bydd timoedd [...]
NEWYDDION
Mae Llyfrau Llafar Cymru yn dathlu ar ddechrau blwyddyn newydd. Maent i dderbyn grant o £142,000 dros dair blynedd i baratoi llyfrau sain ar gyfer deillion, y rhannol ddall a’r rhai sydd yn cael trafferth i ddarllen print.
“Mae hyn yn newyddion da dros ben,” meddai’r cadeirydd, Sulwyn Thomas “ Roedd e wedi golygu [...]
Gwyn Elfyn yn darllen ei lyfr “Gwyn Y Mans” yn ein stiwdio yng Nghaerfyrddin.
Mrs Barbara Rumbold, Llywydd Clwb Rotary Caerfyrddin yn cyflwyno siec o £300 i Sulwyn Thomas, Llyfrau Llafar Cymru a £300 i Gareth Jones, cadeirydd Papur Llafar Caerfyrddin a’r cylch. Yn y llun mae aelodau o’r ddwy elusen yn y stiwdio yn Mhensarn.
Cadeirydd, Llyfrau Llafar Cymru, Sulwyn Thomas, yn derbyn siec o £1000 oddiwrth chwiorydd a Ffrindiau Capel Bethlehem, Pwll Trap, St Cler.
Elliw James trysorydd Cymdeithas Y Bobl Ifanc a Louise Wren o Lloyds TSB
Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru, Sulwyn Thomas yn derbyn siec o £100 oddi wrth Maer Tre Aberteifi, y Cynghorydd Catrin Miles mewn seromni yn Neuadd y Dref. Yn y llun hefyd mae ei Chydwedd, Graham Evans. Mae Cyngor Tre Aberteifi yn un o nifer o awdurdodau lleol sydd wedi cyfrannu at ein Hapel. Diolch iddynt i [...]
Ymwelodd aelodau o Glwb Ffermwyr Ifenc Capel Dewi a’r stiwdio yn ddiweddar cyn bod cadeirydd y clwb, Iestyn Owen yn cyflwyno siec i Llyfrau Llaffar Cymru.Bu’r aelodau yn canu carolau cyn Nadolig 2011 a phenderfynwyd trosglwyddo £235 o’r cyfanswm i gynhyrchu llyfrau sain ar gyfer y deillion.Diolch o galon iddyn nhw.
|