Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

DAU YMWELYDD

Cyn ein cyfarfod fis Mawrth cawsom gwmni dau o swyddogion y Ford Gron, Caerfyrddin – Andrew Jones a Mark Elis-Jones. Pwrpas eu hymweliad oedd trosglwyddo siec o £400 i Llyfrau Llafar Cymru. Bob blwyddyn bydd y Ford Gron yn trefnu un digwyddiad o bwys yn y dre, sef Noson Tân Gwyllt. Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng nifer o elusennau yn yr ardal. Diolch i’r aelodau am benderfynu taw Llyfrau Llafar Cymru oedd un o’r elusennau i elwa y tro hwn. Rydym yn ddiolchgar am gyfraniad sylweddol i’n coffrau.

Comments are closed.