Ffôn 01267 238225
E-bost Llyfrau Llafar

y WAWR

Wel, ydych chi, aelodau o Ferched y Wawr wedi gweld bod rhywbeth yn wahanol am rifyn y Gwanwyn o’r Wawr? Wrth gwrs eich bod chi. Ynghlwm wrth glawr y cylchgrawn mae Cryno Ddisg, sef fersiwn sain o’r rhifyn. Er bod Llyfrau Llafar Cymru yn recordio Y Wawr ar gyfer rhai aelodau sydd yn cael trafferth i ddarllen print ers blynyddoedd, y mae’r gryno ddisg hon yn wahanol. Y mae clawr y cylchgrawn wedi ei brintio ar y ddisg ei hun ac fe gynhyrchwyd bron i saith mil ohonynt. Y bwriad yw bod pob aelod yn ceisio canfod rhywun a all fanteisio ar y cyfoeth o lyfrau sydd ar gael oddi wrth Llyfrau Llafar Cymru drwy eu perswadio i wrando ar y gryno ddisg yn gyntaf a chodi awydd ynddynt i dderbyn fersiynnau sain o’r “llyfrau”, chylchgronau a phapurau bro a gynhyrchir gennym .

Os ydych yn adnabod rhywun a fyddai yn falch o dderbyn ein cynnyrch, rhowch wybod i Linda a Phil ar 01267238225.

Pe bai ond un y cant o holl aelodau Merched y Wawr yn cael gafael ar un gwrandawr/wraig newydd, byddai hynny yn dyblu’r nifer ein cwsmeriaid ac yn rhoi pleser i gannoedd o wrandawyr newydd.

Diolch i’r Mudiad am ei weledigaeth a’i fentergarwch. Dyma esiampl wych o bartneriaid yn cyd-weithio er lles eraill.

Comments are closed.